Doethineb Radical: Taith 7 Diwrnod i DadauSampl
"Bydd yr hyn mae'r tad yn ei ymlid ag angerth yn cael ei ymlid â chymedroldeb gan y plant. Bydd yr hyn mae'r tad yn ei ymlid mewn cymedroldeb 1 yn cael ei anwybyddu gan y plant...a fyddi di ddim yn gweld sut y gwnes di nes daw dy wyrion/wyresau!
Pan glywais siaradwr yn dweud hyn gynta wnaeth e godi'n ngwrychyn i. All e ddim bod yn wir, ddim bob tro. Ond yna, defnyddiodd nifer o esiamplau o'r Gair.
Abraham. Yn hollol ufudd. Darlun mwyaf o ffydd. Isaac wedyn - dyna beth oedd dyn duwiol, ond mi wnaeth o anufuddhau i gyfarwyddyd Duw a mynd i'r Aifft. A beth am yr amser hynny y gwnaeth e gymryd arno mai ei chwaer oedd ei wraig. Dyma bechod oedd ei dad wedi ragweld flynyddoedd yn gynt.
Ydy theori y siaradwr yn dal dŵr pan mae rhywun yn cymryd golwg ar blant y plant?
Roedd plant Isaac; Jacob ac Esau; yn dduwiol ond beth am y twyll ddefnyddiodd Jacob i ennill yr enedigaeth-fraint? A beth am fyrbwylltra Esau i'w ffeirio am fowlen o gawl?
Y pwynt ydy, mae'n rhaid i ni y tadau ymlid Duw gyda brwdfrydedd, nid cymedroldeb. Mae ein plant yn eu hisymwybod yn penderfynu pa mor bwysig fydd eu ffydd iddyn nhw wrth edrych pa mor bwysig ydy ein ffydd i ni.
Peidiwch â chymryd dim yn ganiataol. Ewch ati. Cymrwch y cam i fod yn ddilynwr Iesu sy'n gyhoeddus, gydwybodol, yn weddïwr, degymwr, carwr, a llawn gras.
O leiaf y byddi'n gwybod, o heddiw ymlaen, dy fod yn eiddgar wrth ddilyn Duw. Paid gadael i neb dy alw'n gymhedrol fyth eto.
A wedyn, falle fydd gobaith i'r wyrien /wyresau!
Cwestiwn: Fyddai dy blant yn dy ddisgrifio fel rhywun brwdfrydigyn dy gariad at Iesu?
Wnaeth y cynllun hwn dsy herio fel tad?
Am y Cynllun hwn
Mae'n anhygoel sut mae ein tadau yn cael dylanwad arnom. Does neb yn dianc o ddylanwad ein tad bydol. A chan nad ydy'r rhan fwyaf o ddynion yn teimlo'n barod i fod yn dadau, mae'n hanfodol i geisio arweiniad - o'r Gair a chan dadau eraill. Taith tuag at ddoethineb a mewnwelediad i dadau yw Doethineb Radical, sy'n cyfuno egwyddorion a doethineb o'r Gair gyda profiad, tad hŷn a doethach ddysgodd o'i gamgymeriadau.
More