Doethineb Radical: Taith 7 Diwrnod i DadauSampl
Defaid heb Fugail
Mae plant fel defaid. Mae nhw ar eu ffordd i annibyniaeth, ond am nawr, mae nhw'n cael eu pweru gan eu hieunectid â'u hegni - a mewn perydl oherwydd eu diffyg profiad.
Fel defaid, mae arnyn nhw angen bugail,,, rhywun i gadw llygad arnyn nhw. Mae arnyn nhw angen tad. Tad go iawn. Yn anffodus, dw i'n adnabod llawer o blant sy'n tyfdu i fyny heb fugail. Gobeithio dy fod di yn un o'r tadau hynny sy'n cymryd ei fugeilio o ddifrif. Beth mae tad sy'n bugeilio yn ei wneud|?- Tueddiadau - Yn union fel mae bugail yn gwybod ble mae ei ddefaid, mae tadau yn gwybod ble mae ei blant... yn gorfforol, o ran perthynas, ac yn ysbrydol.
- Haid - Mae bugeiliaid yn cadw eu praidd gyda'i gilydd. Mae gan dadau yr yn cyfrifoldeb, ac mae hynny'n dechrau gyda aros efo'i wraig. Fedri di ddim cadw'r defaid bach efo'i gilydd os ydy'r ddau ddafad mawr yn pellhau oddi wrth ei gilydd.
- Bwydo -Y bugeiliaid yw prif ddarparwyr y defaid. Mae angen i dadau wneud hyn ar gyfer eu plant. Ddyle yna fyth fod dad sy'n esgeulus.,,, yn arbennig os yw'n Gristion. Yn ogystal â darparu ar gyfer eu hanghenion corfforol, rhaid i dadau ddarparu cariad diamod a diddiwedd i'w plant, yn ogystal â darparu eu bwyd ysbrydol.
- Amddifynwyr -Mae bugeiliad yn gwneud unrhyw beth i yrru i ffwrdd unrhyw un neu unrhyw beth sydd am nieweidio eu defaid neu eu gyrru ar gyfeiliorn. Mae tadau yn gwarchod eu plant rhag bygythiadau allanol ac yn osgoi eu brifo drwy ddicter, diffyg meddylgarwch, neu esgeulustod.
Byddai'r rhan helaeth o dadau yn gadael y praidd o nawdeg naw i fynd i chwilio am un ddafads goll. A wnei di hefyd ofalu, heidio, bwydo a'u hamddiffyn nhw?
Cwestiwn:Wyt ti'n talu digon o sylw i weld pan mae un o dy ddefaid yn crwydro?
Am y Cynllun hwn
Mae'n anhygoel sut mae ein tadau yn cael dylanwad arnom. Does neb yn dianc o ddylanwad ein tad bydol. A chan nad ydy'r rhan fwyaf o ddynion yn teimlo'n barod i fod yn dadau, mae'n hanfodol i geisio arweiniad - o'r Gair a chan dadau eraill. Taith tuag at ddoethineb a mewnwelediad i dadau yw Doethineb Radical, sy'n cyfuno egwyddorion a doethineb o'r Gair gyda profiad, tad hŷn a doethach ddysgodd o'i gamgymeriadau.
More