Doethineb Radical: Taith 7 Diwrnod i DadauSampl
Swper efo'n gilydd
Mi fedra i gyfri ar un llaw y pethau mae fy ngwraig wedi mynnu arno gydag un llaw. Swper oedd un.
"Pryd fyddi di adre?" oedd ei chwestiwn. "Dw i'n brysur...fydd hi'n dipyn hwyrach! oedd fy ateb. Heb flwewyn ar dafod ei hateb oedd, "Dim digon da. Dŷn ni'n bwyta swper efo'n gilydd yn y teulu yma. Fydd o'n barod yn fuan ac ar y bwrdd am 6:30!"
Dw i'n gor-ddweud braidd ond ddim llawer. Roedd fy ngwraig yn mynnu ein bod ni'n cael swper efo'n gilydd bob nos fel teulu. Ar y dechrau doeddwn i ddim yn gweld pam oedd hyn mor bwysig â hynny.
Ond dros amser, wrth i'r plant gyrraedd eu harddegau, gwelais y gwerth. Dyma oedd yr un tro yr oedden ni wyneb yn wyneb. Roedden ni'n trafod pethau. Roedden nhw'n clywed yr hyn oedd ar galonnau'n gilydd. Gallen nhw weld sut roedd eu rhieni yn siarad, gweithio â'i gilydd, ac yn caru ei gilydd. Eisteddodd y brawd a chwaer yna am ddos o deulu.
Os nad adre, ble arall all eich plant ddysgu am ymrwymiad cariad, dynameg cariad, ffyddlondeb, empathi, datrys problemau ar y cyd, a maddeuant\/ Pwy fydd yn eu paratoi ar gyfer priodi a bywyd teuluol? Dw i ddim yn gwybod am "ysgol gŵr" neu "ysgol gwraig" ble mae'r plant yn dysgu am hynny.
p>Cwestiwn: Ydy dy deulu di yn eistedd gyda'i gilydd gartre gyda unrhyw gysondeb? Gofyna i'th hyn,", Ugain mlynedd o nawr fydd beth gawson nhw tu allan mewn gweithgareddau eraill yn bwysicach na beth gawson nhw ar yr aelwyd gartre'?Am y Cynllun hwn
Mae'n anhygoel sut mae ein tadau yn cael dylanwad arnom. Does neb yn dianc o ddylanwad ein tad bydol. A chan nad ydy'r rhan fwyaf o ddynion yn teimlo'n barod i fod yn dadau, mae'n hanfodol i geisio arweiniad - o'r Gair a chan dadau eraill. Taith tuag at ddoethineb a mewnwelediad i dadau yw Doethineb Radical, sy'n cyfuno egwyddorion a doethineb o'r Gair gyda profiad, tad hŷn a doethach ddysgodd o'i gamgymeriadau.
More