Doethineb Radical: Taith 7 Diwrnod i DadauSampl
Byddi'n derbyn yr hyn rwyt yn ei Fawrygu
Wyt ti erioed wedi gweld merch yn cael ei choluro gan ei mam, gan gael ei chyflwyno i golur, rhuddliw, lliw i'r llygaid, a lipstic, tra mae dal yn blentyn? Yna daw'r frawddeg ei bod yn brydferth, nid oherwydd ei bod hi, ond oherwydd ei bod (neu ei mam) yn trio mor galed.
Wyt ti bod i gêm bêl droed plant ble mae'r tad yn sgrechian mewn llawenydd wrth iddo weld ei fab yn sgorio gôl? Pawennau llawen ymhobman wrth i'r bêl daro cefn y rhwyd,
Rwyf wedi byw yn ddigon hir i weld y bechgyn a genethod ifanc yna yn tyfu'n ddynion a merched, ac wedi gweld Byddi'n derbyn yr hyn rwyt yn ei Fawrygu
Pan fyddwn yn treulio oriau a llwyth o bres ar ddillad ein plant, byddwn yn prynu "hors-ddilad" ar ôl idyn nhw dyfu fyny. Pan fydd ein meibion yn cael dim, ond canmoliaeth am eu perfformiadau chwaraeon, dŷn ni'n mynd i gael anfri wrth fynd yn hŷn.
Does dim o'i le ar ddillad a cholur, a dim o'i le ar chwaraeon.
Ond byddwch yn ofalus o'r hyn rydych yn ei ganmol yn eich plant.
Yn fy ngeiriadur mae ystyr "canmoliaeth" a "clodfori" yn gyfnewidiol. Yr hyn fyddwch yn ei ganmol yn eich plant fydd yr hyn y byddan nhw yn mynd ar ei ôl wrth iddyn nhw dyfu i fyny.
,Ystyriwch ganmol caredigrwydd eich plant at eraill. Daliwch nhw yn gwneud rhywbeth hyfryd dros eu brawd neu eu chwaer. Rhowch ganmoliaeth iddyn nhw am hynny, Canmolwch nhw am weddïo, darllen y Beibl, gofyn am Iesu, a rhoi arian i'r eglwys, elusennau neu'r tlodion.
Cofia, rwyt yn arwain bob tro. Y cwestiwn yw, i ble.
Cwestiwn:A fyddi di'n arwain drwy fawrygubeth rwyt yn obeithioei gael pan fydd dy blant yn tyfu'n oedolion?
Am y Cynllun hwn
Mae'n anhygoel sut mae ein tadau yn cael dylanwad arnom. Does neb yn dianc o ddylanwad ein tad bydol. A chan nad ydy'r rhan fwyaf o ddynion yn teimlo'n barod i fod yn dadau, mae'n hanfodol i geisio arweiniad - o'r Gair a chan dadau eraill. Taith tuag at ddoethineb a mewnwelediad i dadau yw Doethineb Radical, sy'n cyfuno egwyddorion a doethineb o'r Gair gyda profiad, tad hŷn a doethach ddysgodd o'i gamgymeriadau.
More