Doethineb Radical: Taith 7 Diwrnod i DadauSampl
Digonedd v Prinder
Mae bod yn rieni yn anodd. Dyma un o'r tasgau anodd sydd yna. Does yna ddim llawlyfr, dim fformiwla sefydlog, ac mae Duw, er mawr syndod, yn gwneud pob plentyn yn wahanol. Dros amser rhaid gafael mewn unrhyw egwyddor sy'n gwneud synnwyr, rhoi tro arni, ac os mae'n gweithio yn gafael ynddo.
Felly, dw i'n mynd i awgrymu un: crewch amgylchfyd o ddigonedd i'ch plant.
Mae plant eisiau, ac angen, cariad. Fel pob dim yn y byd yma, os ydy o'n brin mae'n dod yn fwy gwerthfawr ac yn creu cynnen. os oes digonedd ohonoi does dim problem.
Gadewch i ni gymryd oel ac halen fel enghreifftiau. Mae ar bob gwlad angen petroliwm felly mae yna gystadlu ffyrnig amdano. Mae e'n ddrus ac yn debygol o fynd yn ddrutach. Dŷn ni'n brywdro, manipowleiddio, llwgrwobrwyo, ac yn gwneud unrhyw beth i gael ein gafael ar olew.
Ar y llaw arall, mae halen yn anghenraid i ddynoliaeth ac mae digon ohono. Mae bocs o halen yn geiniogau. Mae digonedd ar gael.
Pan mae tadau yn methu wrth beidio gweithio'n agos gyda'u plant, pan mae nhw'n brysur drwy'r adeg fel bod eu plant yn teimlo'n ddiwerth, pan mae presenoldeb dad yn brin iawn a dysy o ddim mewn gwirionedd ag amser i dreulio gyda nhw, maer hynny'n amgylchfyd prinder./
Ond, pan mae tadau yn darparu cyflenwad diddiwedd o gariad, pan mae yna ddigonedd cyson o bresenoldeb dad, bydd y cystadlu, manipiwleiddio, a mwy o heddwch yn y cartre'. Mae'n rhaid i dad fod yna yn gorfforol ac emosiynol.
Dydy darparu amgylchfyd o ddigonedd ddim yn dod yn hawdd.
Ond mae e werth e.
Cwestiwn:Ai cartre' o ddigonedd neu brinder sydd gynnoch chi? Mae plant yn ffynnu mewn amgylchedd o ddigonedd. Mae nhw'n ymdrechu mewn amgylchfyd o brinder.
Am y Cynllun hwn
Mae'n anhygoel sut mae ein tadau yn cael dylanwad arnom. Does neb yn dianc o ddylanwad ein tad bydol. A chan nad ydy'r rhan fwyaf o ddynion yn teimlo'n barod i fod yn dadau, mae'n hanfodol i geisio arweiniad - o'r Gair a chan dadau eraill. Taith tuag at ddoethineb a mewnwelediad i dadau yw Doethineb Radical, sy'n cyfuno egwyddorion a doethineb o'r Gair gyda profiad, tad hŷn a doethach ddysgodd o'i gamgymeriadau.
More