Doethineb Radical: Taith 7 Diwrnod i DadauSampl
Tadau sy'n dilyn Iesu
Mae tadau sy'n dilyn Iesu yn dechrau drwy helpu eu plant i ddeall pwy ydyn nhw yng Nghrist. Ydy dy blentyn y ngwybod ei fod yn blentyn mabwysiedig i Frenin y brenhinoedd - wedi cael maddeuant cyfan gwbwl, yn hollol ddiginol, ac yn gwbwl deilwng.
Pan mae plant yn deall pwy ydyn nhw yng Nghrist, mae nhw'n darganfod hunaniaeth ystyrlon. Mae'r hunaniaeth hwn yn ei gwneud hi'n gymaint haws i ddeall beth i'w wneud yn y munudau hynny pan mae'r llinell rhwng beth sy'n iawn a ddim yn iawn, pan mae rhieni yn tynnu nôl ar benderfyniad.
Mae eu ffordd o feddwl yn troi at " Beth fyddai Iesu yn ei wneud?" oherwydd eu nunaniaeth yng Nghrist ydy pwy ydyn nhw.Mae gan fy ffrindiau, Craig a Kerry, dair merch hyfryd. Pan mae penderfyniadau yn cael eu gwneud am eu dillad mae Kerry yn gofyn, "Ydych chi'n meddwl fod hynny'n weddus?" Byddai lot o blant yn ymladd nôl gan gan feddwl fod y fam yn gwthio'i syniad o weddus arnyn nhw.
Ond mae'r merched hyn wedi datblygu eu hunaniaeth eu hunain. .. eu safonau o beth sydd, a beth sydd ddim, yn weddus. Mae nhw wedi osgoi'r ffraeo am beth sy'dd a beth sydd ddim yn iawn, am eu bod wedi meddwl y peth drwodd eu hunain. " Dw i'n gwybod pwy ydw i. Dydy pobl fel fi ddim yn gwisgo fel yna. Dydy pobl fel fi ddim yn gwneud y pethau yna."
Cwestiwn: Wnewch chi ganolbwyntio ar hunaniaeth gyda'ch plant, gan eu harwain i adnabod pwy ydyn nhw yng Nghrist?
Am y Cynllun hwn
Mae'n anhygoel sut mae ein tadau yn cael dylanwad arnom. Does neb yn dianc o ddylanwad ein tad bydol. A chan nad ydy'r rhan fwyaf o ddynion yn teimlo'n barod i fod yn dadau, mae'n hanfodol i geisio arweiniad - o'r Gair a chan dadau eraill. Taith tuag at ddoethineb a mewnwelediad i dadau yw Doethineb Radical, sy'n cyfuno egwyddorion a doethineb o'r Gair gyda profiad, tad hŷn a doethach ddysgodd o'i gamgymeriadau.
More