Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Doethineb Radical: Taith 7 Diwrnod i DadauSampl

Radical Wisdom: A 7-Day Journey For Fathers

DYDD 2 O 7

Tad gyda Rhai Gofidiau

Ar un cyfnod mewn amser roedd y "dull rhesymol" o wneud penderfynaidau yn rheoli. Roedden ni'n creu fformiwlâu ac yn amneidio tuag at y tebygolrwydd uchaf o lwyddiant ac isaf o fethiant. Roedden ni'n chwarae'r ods wrth wneud rhai pethau, a bydden ni gan amlaf yn ennill.

Fel tadau, dydyn ni ddim eisiau chwarae'r ods gyda'n plant. dydy o ddim bwys be dŷn ni'n ei wneud, allwn ni ddim sicrhau y byddan nhw'n troi allan i fod yn ddilynwyr Iesu aruthrol. Ond gallwn wneud penderfyniadau all arwain i'r cyfernodau isaf o ddifaru i ni ein hunain! Gallwn ddewis i beidio gwneud pethau y byddwn yn ei ddifaru yn ddiweddarach!

Mae yna gymaint o ddynion yn byw gyda chreithiau oddi wrth y tadau hynny fethodd reoli eu tafodau na'u tymer. "Chi'r tadau, peidiwch trin eich plant mewn ffordd sy'n eu gwylltio nhw. Dylech eu magu a'u dysgu nhw i wneud beth mae'r Arglwydd yn ei ddweud." Ar y lleiaf rhaid i ni gau ein cegau. Rheoli ein beirniadaethau a dicter. Dŷn ni fel arfer ddim yn sylweddoli ein bod yn ei wneud.. nes ein bod wedi gwneud.

Roedden ni'n awchu i glywed geiriau o ganmoliaeth a chadarnhad gan ein tadau, ond i lawer wnaeth hyn ddim digwydd. Mae'n syndod fel mae balchder yn ein parlysu. Dŷn ni'n barod i reisio teirw mecanyddol, beiciau modur, bwrdd syrffio, ond wnawn ni ddim torri drwy ein hofnau o deimlo'n wirion drwy ddweud wrth ein meibion a'n merched mor arbennig ydyn nhw a gymaint dŷn ni'n eu caru.

Ydych chi tu ôl i'ch plant gant y cant? ydych chi'n magu fel bod y cyfernod lleiaf o ddifaru ymhellach law'r y ffordd?

Cwestiwn:Wnei di ofyn i Dduw ddangos y peth mwyaf y byddi di'n ei ddifaru flynyddoedd o nawr? Yna, gofyn iddo roi'r hyder i ti ddelio â'r peth?

Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

Radical Wisdom: A 7-Day Journey For Fathers

Mae'n anhygoel sut mae ein tadau yn cael dylanwad arnom. Does neb yn dianc o ddylanwad ein tad bydol. A chan nad ydy'r rhan fwyaf o ddynion yn teimlo'n barod i fod yn dadau, mae'n hanfodol i geisio arweiniad - o'r Gair a chan dadau eraill. Taith tuag at ddoethineb a mewnwelediad i dadau yw Doethineb Radical, sy'n cyfuno egwyddorion a doethineb o'r Gair gyda profiad, tad hŷn a doethach ddysgodd o'i gamgymeriadau.

More

Hoffem ddiolch i Carol McLeod am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://radicalwisdombook.com