Blas ar y Beibl 2Sampl
Darlleniad: Mathew 20:20-27
Gweision yw’r dysgwyr gorau
Un o’r ffyrdd mae dynion yn cael eu dewis i fod yn swyddogion ym myddin Israel yw trwy wylio’n ofalus pa mor barod ydyn nhw i weithio dan awdurdod. Mae’n nhw’n dweud, “Cei fod yn arweinydd pan fyddi wedi dangos dy fod yn gallu bod yn ufudd i arweinydd arall.” Mae un cyfieithiad yn ei ddweud fel yma: “Pwy bynnag sydd am fod yn arweinydd yn eich plith, rhaid iddo fod yn was i chi. Os wyt ti am fod yr uchaf, rhaid i ti wasanaethu fel caethwas.” Mae yna rywbeth yn y rhan fwyaf ohonom ni sydd eisiau bod yn uchaf, ac fe fydden ni’n hoffi’n aml gallu dweud wrth bobl eraill beth i’w wneud. Mae Duw yn edrych yn ofalus ar y ffordd rydyn ni’n ymateb i awdurdod rhywun arall cyn rhoi safle o awdurdod i ni. Os ydyn ni’n gwrthryfela yn erbyn awdurdod yn yr ysgol, neu’r cartref, neu hyd yn oed awdurdod y wladwriaeth weithiau, yna rydyn ni’n gwrthryfela yn erbyn Duw (gw. Rhufeiniaid 13.1) - Dylai pawb fod yn atebol i awdurdod y llywodraeth. Duw sy’n rhoi awdurdod i lywodraethau, ac mae'r awdurdodau presennol wedi eu rhoi yn eu lle gan Dduw). Os wyt ti’n ei chael hi’n anodd ufuddhau i awdurdod yn yr ysgol, yn y cartref neu yn y gwaith, yna fe fyddi hefyd yn ei chael yn anodd i ymostwng i awdurdod dy Dad Nefol.
Yn y sefyllfaoedd poenus ac anodd sy’n codi bob dydd mae Duw yn dawel yn mowldio dy gryfderau, dy gymeriad a’th ddoniau i’w defnyddio er ei glod ei Hun. Ond cofia’r rheol ddyddiol - rhaid dysgu bod yn ufudd i awdurdod.
Gweddia: Dad Nefol, rwy’n gweld fod dy orchmynion di yn berffaith ddoeth ac yn fy nysgu i fodloni ymostwng i awdurdod, er mwyn i mi ryw ddydd gael fy nefnyddio i ofalu am eraill er dy fwyn di.
BDGI - addasiad Alun Tudur

Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru. Mae Blas ar y Beibl 2 yn addasiad gan Alun Tudur o Bob Dydd Gyda Iesu. Defnyddir gyda chaniatâd y cyhoeddwyr.
More
Hoffem ddiolch i Arfon Jones, gig a beibl.net, am ddarparu’r cynllun hwn.