Blas ar y Beibl 2Sampl
Darlleniad: 1 loan 1:4 -10
Beth sy’n digwydd pan fydda i’n methu?
Un o’r pethau pwysicaf y gallwn ei ddysgu yn ein bywydau fel Cristnogion yw sut i gyffesu ein pechodau ar unwaith a derbyn maddeuant llwyr gan Dduw. Er bod Duw wedi maddau ein pechodau i gyd pan ddaethon ni’n Gristnogion, fe’n cawn ein hunain yn aml yn anghofio neu yn esgeuluso ein cyfrifoldebau fel Cristnogion ac yn llithro i ryw bechod neu’i gilydd. Efallai y cawn ein hunain yn dweud celwydd, yn twyllo, yn rhegi, colli ein tymer, neu hyd yn oed ddwyn. Pan mae hynny'n digwydd, rydyn ni’n dod yn ymwybodol ar unwaith ein bod wedi bod yn anffyddlon i Dduw ac wedi pechu.
Beth ddylen ni ei wneud pan mae hynny’n digwydd? Wel, os wnawn ddim mwy na theimlo’n annifyr am y ffaith heb gymryd unrhyw gamau i gywiro’r drwg, fe awn yn fwy a mwy digalon, yn isel ein hysbryd ac yn bellach oddi wrth Dduw. Ateb y Beibl yw y dylen ni gyffesu ein pechod ar unwaith. Hynny yw, fe ddylen ni gael gwared â’r drwg trwy ofyn i Dduw faddau i ni, a hefyd trwy ofyn i’r bobl hynny rydyn ni wedi ei brifo, faddau i ni. Pan fyddwn ni’n delio ar unwaith ag unrhyw fethiant, yna mae’r bywyd Cristnogol yn troi’n Ilwybr i fuddugoliaeth a heddwch mewnol. Rhoddodd dyn a oedd yn Gristion forthwyl a hoelion yn anrheg i’w fab, a dywedodd wrth ei fab am guro’r hoelion i wal ei ystafell wely. Gwnaeth y bachgen hynny, ac yna fe ddywedodd ei dad wrtho “Nawr dos ati i’w tynnu allan bob un a phen arall y morthwyl.” Pan oedd wedi tynnu’r hoelion o'r wal i gyd fe ddysgodd y bachgen wers nad anghofiodd byth wedyn. Mae pechod yn gadael ei farc ar ein bywydau, a gwaed lesu Grist yn unig all ei lanhau.
D’oes dim ffordd arall i ddelio â phechod - dim ond cariad maddeugar Iesu Grist.
Diolch i Dduw am y maddeuant mae’n ei gynnig i ti er gwaetha dy fethiant a’th bechod. Gofyn iddo am nerth i ddysgu cyffesu ar unwaith unrhyw bechod y byddi’n syrthio iddo - fel na fyddi yn ei dristáu o nac yn gwneud drwg i unrhyw un arall.
BDGI - addasiad Alun Tudur

Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru. Mae Blas ar y Beibl 2 yn addasiad gan Alun Tudur o Bob Dydd Gyda Iesu. Defnyddir gyda chaniatâd y cyhoeddwyr.
More
Hoffem ddiolch i Arfon Jones, gig a beibl.net, am ddarparu’r cynllun hwn.