Blas ar y Beibl 2Sampl
Darlleniad: Salm 107:1-8
Molwch yr Arglwydd!
Dywedodd rhywun unwaith fod dau fath o Gristnogion yn bod - rhai sy’n cymryd popeth yn ganiataol a rhai sy’n derbyn popeth yn werthfawrogol. Sut Gristion wyt ti? Wyt ti’n codi o’th wely yn y bore, yn edrych ar y glaw yn tywallt y tu allan, ac yn teimlo fel mynd yn ôl i’r gwely? Neu wyt yn wynebu pob dydd (boed law neu heulwen) mewn ysbryd o fawl a diolch i Dduw am ganiatáu i ti dreulio dydd arall yn ei gwmni.
Heb foliant mae ein bywydau yn wag, ac ni allwn fwynhau’n llawn y bywyd hwnnw y mae Duw wedi ei fwriadu ar ein cyfer. Mae’r Testament Newydd hefyd yn ein hatgoffa o’r cyfrifoldeb pwysig yma gyda’r geiriau: Diolchwch i Dduw y Tad am bopeth bob amser, o achos y cwbl mae'r Arglwydd Iesu Grist wedi ei wneud. (Effesiaid 5:20) Dechreua trwy ddiolch iddo am y cwsg a gefaist neithiwr. Diolch iddo am sialens diwrnod newydd sy’n dy wynebu. Diolch iddo hefyd am y brecwast y byddi’n ei fwyta cyn gadael y tŷ, a dos yn dy flaen gydol y dydd i fanteisio ar bob cyfle i foli'r Arglwydd. Pan na fedri di feddwl am reswm arall i’w foli, yna diolch iddo am ei Fab, yr Arglwydd lesu Grist a’i aberth rhyfeddol drosot ti ar groes Calfaria. Does dim diwedd i’r rhestr o bethau y gallwn foli’r Arglwydd amdanyn nhw! Dos ati! - Ar unwaith!
O Dad, dw i wedi bod mor araf yn dy glodfori di, pan fo cymaint o bethau o’m cwmpas i yn dangos dy gariad a’th ofal. Maddau i mi am fod mor araf yn dy foli di. Nertha fi i newid hyn fel bo mywyd i gyd yn troi’n gyfrwng i foli dy enw di.
BDGI - addasiad Alun Tudur

Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru. Mae Blas ar y Beibl 2 yn addasiad gan Alun Tudur o Bob Dydd Gyda Iesu. Defnyddir gyda chaniatâd y cyhoeddwyr.
More
Hoffem ddiolch i Arfon Jones, gig a beibl.net, am ddarparu’r cynllun hwn.