Blas ar y Beibl 2Sampl
Darlleniad: Luc 9:23-26
Gwadu’r Hunan
Efallai dy fod yn dweud ein bod wedi edrych ar hyn eisoes, ac felly pam troi at yr un peth eto? Wel, y gwir yw fod hyn yn gwbl sylfaenol i natur ac ystyr bod yn ddisgybl i Iesu Grist. Gad i ni feddwl am y syniad o wadu’r hunan fel thema i’n myfyrdod heddiw. Mae gwadu’r hunan yn golygu gwneud heb rai pethau da ni yn eu mwynhau, a gwneud pethau eraill nad ydyn ni efallai yn hoff iawn o’u gwneud. Mae’r gwir ddisgybl bob amser yn fodlon wynebu sialens Iesu yn hyn o beth.
Ond beth mae’n ei olygu’n ymarferol o ddydd i ddydd? Mae’n golygu ein bod yn fodlon rhannu ein tystiolaeth â grŵp o bobl sydd wedi gofyn i ni wneud hynny, hyd yn oed os ydyn ni yn dychryn wrth feddwl am siarad yn gyhoeddus. Mae’n golygu ein bod yn gadael i aelodau eraill ein teulu gael eu ffordd, hyd yn oed os ydy hynny’n ein brifo ni. Mae’n golygu gwneud ymdrech i fynd i’r capel neu’r eglwys ar fore Sul, pan fydden ni’n hoffi cysgu’n hwyr yn y gwely!
Dyma’r math o sialens y mae Iesu’n ei osod i ni, y rhai sydd am fod yn ddisgyblion iddo, a dyna pam mae cymaint yn troi eu cefnau arno. Maen nhw am gael bod yn aelod mewn capel neu eglwys, ond dydyn nhw ddim yn fodlon cymryd y sialens o ddifrif, a gweithredu arno. Rhaid i ni gofio fod Duw nid yn unig yn gosod safon uchel, ond mae hefyd yn rhoi’r nerth i ni gyrraedd y safon.
Arglwydd, dw i mor falch dy fod, nid yn unig yn gosod sialens o’m blaen i fyw bywyd Cristnogol ystyrlon, ond dy fod hefyd yn fy llenwi a nerth grymus yr Ysbryd GIân, wrth i mi ymostwng i ti. Diolch am dy Ysbryd sy’n rhoi’r gallu i mi fyw’r bywyd yr wyt am i mi ei fyw. Diolch i ti, O Dad.
BDGI - addasiad Alun Tudur

Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru. Mae Blas ar y Beibl 2 yn addasiad gan Alun Tudur o Bob Dydd Gyda Iesu. Defnyddir gyda chaniatâd y cyhoeddwyr.
More
Hoffem ddiolch i Arfon Jones, gig a beibl.net, am ddarparu’r cynllun hwn.