Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Blas ar y Beibl 2Sampl

Blas ar y Beibl 2

DYDD 14 O 28

Darlleniad: 2 Timotheus 3:12-17

Edrych ymlaen

Mae rhai pobi ifanc yn meddwl y bydd eu haddysg yn darfod wrth adael yr ysgol, neu pan fyddan nhw’n graddio yn y coleg. Nid darfod mae dy addysg pan fyddi’n gadael yr ysgol mewn gwirionedd - dim ond dechrau mae o! Y prawf gorau o faint wyt ti wedi ei ddysgu ydy dy allu i wynebu gwersi mwyaf Ysgol Bywyd. Os wyt yn meddwl y byddi wedi darfod dysgu y diwrnod y byddi’n rhoi dy lyfrau ysgol heibio am y tro olaf, yna rwyt yn gwneud un o gamgymeriadau mwyaf dy fywyd. Mae addysg dda yn yr ysgol yn helpu i’n paratoi ar gyfer bywyd, ond bywyd ei hun ydy’r prawf terfynol o’r hyn rydyn ni wedi ei ddysgu. Y person gwir addysgedig ydy’r un sydd wedi derbyn y gwirionedd, ac eto’n sylweddoli ar yr un pryd nad yw’n gwybod y cwbl, ac sydd bob dydd yn mynd yn ei flaen yn frwd i geisio deall y gwirionedd yn well.

Dywedodd siaradwr wrth griw o fyfyrwyr ifainc, “Mae gynnoch chi un bywyd i’w fyw. Safwch ar flaenau eich traed yn ddisgwylgar ac ymestyn ymlaen at bopeth da sydd ganddo i’w gynnig i chi. Gadewch i’r hyn sydd wedi ei ddechrau ynoch chi barhau, ac i’r holl ddaioni sydd wedi ei blannu ynoch chi orlifo tuag at eraill.” Dyma sialens Paul i Timotheus, a dyna ei sialens i ninnau heddiw. Mae’n rhaid i’r gwersi a ddysgodd Duw i ni am weddi, y Beibl, ffydd, cariad, a llawer o bethau eraill, gael eu profi’n ymarferol yn ein bywyd bob dydd. Efallai y bydd Duw yn rhoi cyfle arbennig i ti heddiw i weithredu ar sail rhyw wers arbennig mae wedi ei dysgu i ti.

Arglwydd lesu, dwi’n sylweddoli dy fod yn fy nysgu i er mwyn fy ennill i’th waith. Nertha fi i ymateb i holl sialens y dydd heddiw mewn ysbryd o gariad Cristnogol ac mewn ffydd. Amen.

BDGI - addasiad Alun Tudur
Diwrnod 13Diwrnod 15

Am y Cynllun hwn

Blas ar y Beibl 2

Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru. Mae Blas ar y Beibl 2 yn addasiad gan Alun Tudur o Bob Dydd Gyda Iesu. Defnyddir gyda chaniatâd y cyhoeddwyr.

More

Hoffem ddiolch i Arfon Jones, gig a beibl.net, am ddarparu’r cynllun hwn.