Blas ar y Beibl 2Sampl
Darlleniad: Salm 5:1-12
Cyfarfod lesu bob bore
All neb ddisgwyl byw bywyd Cristnogol llawen a gorfoleddus heb weddïo’n gyson. Rydyn ni’n tyfu yn ein perthynas â Iesu Grist yn ystod yr amser rydyn ni yn ei dreulio gyda Duw mewn gweddi. Dyma gynllun syml all dy helpu i ddechrau’r dydd gyda Duw a chyfoethogi dy berthynas ddyddiol â’th Dad nefol. Y funud pan fyddi’n deffro ac agor dy lygaid yn y bore, dyweda rhywbeth wrth Dduw ar unwaith gyda geiriau fel “Diolch i ti lesu”. Yna wedi deffro’n iawn, cyn gynted ag y cei gyfle i wneud hynny, treulia rhyw chwarter awr i fod ar dy ben dy hun gyda’r Arglwydd (Cofia wneud hyn heb dorri ar draws y drefn mae dy rieni wedi ei gosod yn y cartref).
Yn ystod y pum munud cyntaf, darllen dipyn o’r Beibl, a disgybla dy hun i geisio deall neges Duw ynddo wrth ei ddarllen - bydd hyn yn ysgogi dy feddwl ac yn dy helpu i ganolbwyntio’n llwyr ar ewyllys Duw.
Yn ystod y pum munud nesaf ceisia feddwl sut mae’r hyn rwyt wedi ei ddarllen yn berthnasol i dy fywyd di - oes unrhyw sialens newydd ynddo y dylet ti ei hwynebu? Ceisia rannu dy broblemau a’th ddymuniadau â’r Arglwydd - dywed wrtho am dy ofnau a’th drafferthion.
Yna yn ystod y pum munud olaf gweddïa dros eraill - dy ffrindiau sydd heb gredu yn lesu Grist hyd yn hyn, dy deulu a’th ysgol. Clodfora Dduw, a diolch iddo am y cwbl y mae wedi ei wneud drosot. Cofia fod Duw gyda ti heddiw, ei fod ynot ti trwy’r Ysbryd Glân, a’i fod ar dy ochr di. Felly - mwynha’r diwrnod!
Arglwydd, dysga fi i fod yn amyneddgar, yn llawn cariad, ac yn berffaith ufudd, er mwyn i mi ddefnyddio popeth sy’n digwydd heddiw er dy glod di.
BDGI - addasiad Alun Tudur

Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru. Mae Blas ar y Beibl 2 yn addasiad gan Alun Tudur o Bob Dydd Gyda Iesu. Defnyddir gyda chaniatâd y cyhoeddwyr.
More
Hoffem ddiolch i Arfon Jones, gig a beibl.net, am ddarparu’r cynllun hwn.