Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Blas ar y Beibl 2Sampl

Blas ar y Beibl 2

DYDD 8 O 28

Darlleniad: Luc 14:33-35

Halen y ddaear

Mae’r adnod hon yn un o’r gosodiadau mwyaf diddorol yn y Beibl, ac mae’n dilyn yn union ar ôl i lesu ddweud beth ydy amodau bod yn ddisgybl iddo. Yn nyddiau lesu, ychydig iawn oedden nhw’n ei wybod am y dulliau o buro halen, ac felly roedd halen yn aml iawn yn cynnwys amhuredd fel tywod, baw a budredd. Os oedd halen yn rhy amhur i ddim arall roedd yn cael ei ddefnyddio fel sylfaen llwybrau troed oherwydd ei natur galed. Edrych nawr ar Mathew 5:13 - Chi ydy halen y ddaear. Ond pan mae'r halen wedi colli ei flas pa obaith sydd i’w wneud yn hallt eto? Dydy e'n dda i ddim ond i'w daflu i ffwrdd a'i sathru dan draed.

Mae’r gwirionedd yma’n dysgu rhywbeth pwysig i ni. Os ydy’n bywydau ni’n Ilawn o amhureddau yna fedrwn ni ddim bod o ryw Iawer o ddefnydd i’n Harglwydd, ac fe fyddwn fel yr halen diflas sy’n dda i ddim ond i’w sathru dan draed. Fel disgyblion Crist fe ddylen ni fod fel halen yn y byd, yn bur ac yn Iân.

Beth sy’n achosi i’r halen golli ei flas? Wel, gall celwydd fod yn un peth. Pan fyddwn yn gwrthod wynebu’r gwirionedd i gyd, mae hyn yn ein rhwystro rhag bod yn ddisgyblion effeithiol i’r Arglwydd lesu Grist. Gall gwylltio fod yn beth arall - yr ysbryd chwerw hwnnw sy’n dod i’r amlwg, er enghraifft, pan mae rhywun yn gofyn i ni wneud rhywbeth sy’n ddiflas a blinedig. Un o nodweddion halen yw ei fod yn achosi SYCHED. Byddai’n wych pe bai Duw yn ein defnyddio i greu syched yn eraill i adnabod yr Arglwydd lesu Grist.
Gweddia y bydd yr Arglwydd yn dy wneud di fel halen i bawb fyddi’n eu cyfarfod heddiw, gan greu awydd ynddyn nhw i adnabod Duw wrth iddyn nhw weld dy gariad di ato.

BDGI - addasiad Alun Tudur
Diwrnod 7Diwrnod 9

Am y Cynllun hwn

Blas ar y Beibl 2

Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru. Mae Blas ar y Beibl 2 yn addasiad gan Alun Tudur o Bob Dydd Gyda Iesu. Defnyddir gyda chaniatâd y cyhoeddwyr.

More

Hoffem ddiolch i Arfon Jones, gig a beibl.net, am ddarparu’r cynllun hwn.