Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Blas ar y Beibl 2Sampl

Blas ar y Beibl 2

DYDD 7 O 28

Darlleniad: LUC 9:18-24

Bob dydd

Yn barod da ni wedi gweld fod yr adnod hon yn bwysig iawn os ydyn ni am fod yn wir ddisgybl i lesu Grist. Mae dau air arbennig yn yr adnod heddiw. Dyma’r geiriau: BOB DYDD. Mae chwaraewr pêl-droed sy’n Gristion wedi dweud - “pan rydyn ni’n ymarfer rydyn ni’n rhedeg trwy gyfres o batrymau pasio ganwaith nes mae’r cwbl yn rhedeg bron yn naturiol.” Yna aeth ymlaen, “pan fedrwn ei redeg yn berffaith, yna rydyn ni yn fwy tebygol o sgorio ym mhob gêm.” Dyna hefyd beth yw ystyr bod yn ddisgybl. Er bod pêl-droedwyr, chwaraewyr rygbi a chwaraeon eraill yn gwybod am y profiad a’r wefr o gael y tyrfaoedd yn bloeddio’u cefnogaeth a’u hannog ymlaen, maen nhw’n dweud nad dyna sy’n digwydd bob dydd. Mae yna ddyddiau pan mae’r ymarfer yn galed a blinedig. Ond maen nhw’n dal ati ddydd ar ôl dydd, ac yna pan ddaw’r profiadau gwefreiddiol a’r llwyddiant, maen nhw’n barod gan eu bod wedi dal ati drwy’r profi caled. A dyna’n union sut mae hi yn y bywyd Cristnogol hefyd. Dywedodd lesu, “Canlyn fi bob dydd.” Mae hynny’n golygu’r adegau hynny pan does neb yn edrych arnon ni nac yn ein hannog yn ein blaen. Mae’n golygu penderfyniad ac ymroddiad llwyr. Dyma holl ystyr bod yn ddisgybl i Grist:
Cofia — rwyt yn adeiladu, nid ar gyfer amser yn unig ond ar gyfer tragwyddoldeb
Arglwydd, helpa fi i fod y math o ddisgybl sy’n aros yn ffyddlon i ti hyd yn oed ar ddyddiau undonog a diflas. Dysg fi mai lle dros dro yn unig yw’r ddaear. Y Nefoedd yw’r nod derfynol.

BDGI - addasiad Alun Tudur

Ysgrythur

Diwrnod 6Diwrnod 8

Am y Cynllun hwn

Blas ar y Beibl 2

Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru. Mae Blas ar y Beibl 2 yn addasiad gan Alun Tudur o Bob Dydd Gyda Iesu. Defnyddir gyda chaniatâd y cyhoeddwyr.

More

Hoffem ddiolch i Arfon Jones, gig a beibl.net, am ddarparu’r cynllun hwn.