Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Adfent: Y Daith hyd at y NadoligSampl

Advent: The Journey to Christmas

DYDD 12 O 25

Grym Credu

Mae rhywbeth pwerus iawn yn digwydd pan fyddwn yn trystio Duw ddigon i, nid yn unig glywed beth mae e'n ddweud ond hefyd ei gredu. Os wyt ti'n credu beth mae Duw'n ei ddweud ac y bydd ei gynllun yn arwain at y canlyniad gorau bosib, yna, canlyniad y trystio hwnnw yw heddwch a bendith. Ar ôl i Mair gwrdd â'r angel ac ildio i gynllun Duw ar gyfer ei bywyd, aeth i weld ei chyfnither, Elisabeth, oedd hefyd yn wyrthiol feichiog, ar ôl bod yn anffrwythlon am flynyddoedd. Pan glywodd Elisabeth am newyddion anhygoel Mair, cafodd ei llenwi â'r Ysbryd Glân, a dweud, "Rwyt ti wedi dy fendithio'n fawr, am dy fod wedi credu y bydd yr Arglwydd yn gwneud beth mae wedi'i ddweud wrthot ti.”

Credodd Mair yn Nuw pan ddwedodd y byddai'n rhoi genedigaeth i'r Meseia hir-ddisgwyliedig. a chafodd ei bendithio gydag heddwch, pan allai fod wedi bod yn llawn pryder. Roedd yn hyderus fod genedigaeth Gwaredwr y byd - eiGwaredwr - yn werth unrhyw dreialon a fyddai hi'n ei wynebu. Trystiodd Mair yng nghynllun Duw a chredodd y byddai ei addewidion yn cael eu cyflawni'n ei bywyd.

Wrth i ni nesáu at y Nadolig meddylia am ganlyniad anhygoel crediniaeth Mai: Ganwyd Mab Duw! Beth mae Duw wedi'i fwriadu i ti yn dy fywyd y mae angen i ti gredu heddiw? Trystia ei gynllun, derbynia ei heddwch gan wybod mai e sy'n gwybod orau, ac edrycha 'mlaen i'r fendith sydd i ddod!

Dad, wrth i mi ffocysu ar fendith genedigaeth Iesu, helpa fi i fod yn fwy fel Mair. Helpa fi i dyfu mewn hyder a chred o dy fendithion. Dw i'n gwybod fod dy gynllun ar gyfer fy mywyd yn arwain i'r canlyniad gorau posib. Helpa fi i adnabod unrhyw rhan o'm mywyd ble mae anghrediniaeth, a rho ffydd i mi gredu dy fod yn gweithio mewn ffyrdd na alla i weld. Dw i'n dewis dy drystio heddiw!

Lawrlwytha'r llun ar gyfer heddiw yma./p>

Diwrnod 11Diwrnod 13

Am y Cynllun hwn

Advent: The Journey to Christmas

Y Nadolig yw'r stori fwyaf erioed i gael ei hadrodd: stori o ffyddlondeb perffaith Duw, pŵer, iachawdwriaeth a chariad bythol. Gad i ni gymryd taith dros y 25 diwrnod nesaf i ddarganfod cynllun dyrys Duw i achub y byd o bechod a'r addewidion gyflawnwyd yn ngenedigaeth ei Fab.

More

Hoffem ddiolch i Church of the Highlands am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.churchofthehighlands.com/