Adfent: Y Daith hyd at y NadoligSampl
Nid yw Duw yn bell i Ffwrdd
Ym mreuddwyd Joseff, datgelodd yr angel y byddai genedigaeth Iesu'n cyflawni hen broffwydoliaeth oedd yn ganrifoedd oed a dod â'r gwahaniad oedd yn bodoli ers y pechod cyntaf yng Ngardd Eden i ben. Dysgodd Joseff y byddai Iesu fel "Duw gyda ni." Mor hawdd yw i ni anghofio'r gwirionedd hwn!
Dŷn ni'n darllen yn Exodus, ymhell cyn geni Iesu, fod Moses wedi gorfod disgwyl i Dduw siarad ag e ar ben mynydd neu o ganol perth yn llosgi. Ar y pryd hwnnw doedd dim ffordd gan y ddynoliaeth ddim ffordd gyson o gael perthynas agos gyda Duw. Weithiau, mae hi'n hawdd iawn llithro nôl i'r meddylfryd hwn o siarad gyda Duw. Pa mor aml ydyn ni'n gofyn am ein perth sy'n llosgi ni ein hunain, yn gobeithio am arwydd pendant ac eglur o air ganddo e? Hyd yn oed fel Cristnogion, gallwn ddechrau credu fod Duw yn bell i ffwrdd pan dŷn ni'n disgwyl i glywed ganddo.
Dŷn ni angen cofio bod Iesu wedi pontio'r bwlch rhyngom ni â Duw. Ateb Duw yw e am ein dymuniad am berth yn llosgi neu sgwrs pen y mynydd rhyngom ni a Duw. Dŷn ni ddim yn addoli Duw pell sydd ddim am siarad â ni. Mae Iesu wedi adnewyddu ein perthynas ag e ac agor ffordd i ni agosáu at ei orsedd gyda beiddgarwch.
Yn ystod tymor y Nadolig hwn cei gysur o wybod fod Duw gyda ti. Mae e'n clywed dy weddïau ac mae e yna i ti. Os gall Duw drwsio ein perthynas doredig ag e, meddylia am beth all e ei wneud, a bydd yn ei wneud, yn ein bywydau ac ar ein rhan.
Gweddi: Dad, diolch am dy rodd o Iesu, ei fod wedi gwneud ffordd i mi fod yn agos at at ti eto. Diolch am dy ddymuniad am berthynas â mi gymaint, fel dy fod wedi anfon dy unig Fab i farw'n fy lle. Dad, rho i mi feiddgarwch i chwilio amdanat mewn gweddi a mawl., gan wybod fod gen i fynediad atat ti drwy Iesu. Diolch am rhoi'r hyder i mi wybod dy fod ti gyda mi bob amser, fel mod i fyth ar ben fy hun.
Lawrlwytha'r llun ar gyfer heddiw yma.
Am y Cynllun hwn
Y Nadolig yw'r stori fwyaf erioed i gael ei hadrodd: stori o ffyddlondeb perffaith Duw, pŵer, iachawdwriaeth a chariad bythol. Gad i ni gymryd taith dros y 25 diwrnod nesaf i ddarganfod cynllun dyrys Duw i achub y byd o bechod a'r addewidion gyflawnwyd yn ngenedigaeth ei Fab.
More