Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Adfent: Y Daith hyd at y NadoligSampl

Advent: The Journey to Christmas

DYDD 17 O 25

Bydd yn Ffyddlon yn y Pethau Bach

Mae duw wrth ei fodd yn gweithredu'n wahanol i bersbectif y byd. Dydy e ddim yn anrhydeddu pobl am yr un rhesymau a'r byd. Mae e'n gwerthfawrogi ffyddlondeb yn hytrach na enwogrwydd a gostyngeiddrwydd dros bŵer. Ar noson ei wyrth mwyaf, yn lle ei dadlennu i frenhinoedd ac arweinwyr byd, anfonodd Duw angel i ddweud wrth fugeiliaid cyffredin. Mae Luc, pennod 2, adnod 8 yn dweud fod y bugeiliaid "allan drwy'r nos yn yr awyr agored yn gofalu am eu defaid." Mae'n werth nod i fod y dynion hyn yn weithwyr ymroddedig, yn byw gyda'u defaid, ac yn gofalu am yr hyn oedd wedi'i ymddiried iddyn nhw ofalu amdanynt. Statws isel oedd ganddyn nhw fel bugeiliaid, ond roedden nhw'n ffyddlon, a dewisodd Duw nhw fel y rhai cyntaf i dderbyn y newyddion mwyaf mewn hanes. Nhw fyddai'r cyntaf i gwrdd â Mab Duw!

Os nad wyt ti'n teimlo'n bwysig iawn heddiw, paid stopio buddsoddi'n yr hyn mae Duw wedi'i roi i ti ei wneud. Hyd yn oed os wyt yn teimlo fod dy dag yn fach, gwna dy orau glas. Paid digalonni! Mae Duw'n chwilio am bobl fydd yn ffyddlon gydag ychydig fel y gall e ymddiried mwy iddyn nhw. Beth bynnag sydd wedi'i neilltuo i ti ei wneud heddiw, gwna e a'th holl nerth. Mae Duw'n gweld dy ddiwydrwydd ac yn gwobrwyo'r rheiny sy'n cwblhau eu tasg.

Gweddi: Dad, diolch am osod gwerth ar yr hyn mae'r byd i'w gweld yn esgeuluso. Beth bynnag fyddi di'n ei roi fel tasg i mi, dw i'n ymroi i weithio arno gyda'm holl galon. Helpa fi i beidio cael fy nigalonni gan safonau bydol, ond cofio sut wnest ti ddewis bugeiliaid gostyngedig a gweithgar i fod y rhai cyntaf i glywed am wyrth y Nadolig. Fel y bugeiliaid, diolch am fy newis i gario dy Newyddion Da. A diolch i ti, ymlaen llaw, wrth i mi fod yn ffyddlon i'r hyn rwyt wedi'i ymddiried i mi'n barod.

Lawrlwytha'r llun ar gyfer heddiwyma.

Diwrnod 16Diwrnod 18

Am y Cynllun hwn

Advent: The Journey to Christmas

Y Nadolig yw'r stori fwyaf erioed i gael ei hadrodd: stori o ffyddlondeb perffaith Duw, pŵer, iachawdwriaeth a chariad bythol. Gad i ni gymryd taith dros y 25 diwrnod nesaf i ddarganfod cynllun dyrys Duw i achub y byd o bechod a'r addewidion gyflawnwyd yn ngenedigaeth ei Fab.

More

Hoffem ddiolch i Church of the Highlands am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.churchofthehighlands.com/