Adfent: Y Daith hyd at y NadoligSampl
Calon Duw dros yr Holl Fyd
Dŷn ni'n gwybod fod y gwŷr doeth yn cael eu hadnabod fel sêr ddewiniaid, sy'n esbonio pam wnaeth Duw ddefnyddio seren i'w harwain at Iesu. Roedd e'n gwybod sut i ddenu eu sylw. Fel sêr ddewiniaid mae'n debygol iawn fod y gwŷr doeth dŷn ni'n eu cynnwys yn hanes y Geni, adeg y Nadolig, yn swynwyr oedd yn dehongli arwyddion i ennill grym. Mae yna nifer o ddamcaniaethau am ethnigrwydd a chefndir y dynion hyn o'r Dwyrain, ond mae yna un peth dŷn ni'n wi wybod i sicrwydd: Nid Iddewon oedden nhw. Roedden nhw o genedl arall.
Am ganrifoedd roedd pobl wedi tybio y byddai'r Gwaredwr yn dod i achub yr Iddewon yn benodol, cenedl ddewisedig Duw. Mae e'n ragdybiaeth ddigon teg oherwydd roedden nhw wedi'u herlid gan genhedloedd o'u cwmpas a oedd yn addoli duwiau ffug. Os oedd yr Unig Gwir Dduw'n dod i'r ddaear i sefydlu ei Deyrnas dragwyddol, siawns mai er mwyn yr Iddewon y byddai hynny.
Ond, pan mae Duw yn dadlennu arwyddocâd genedigaeth Iesu i'r gwŷr doeth, dŷn ni'n cael ein golwg o bendantrwydd am y tro cyntaf o'i awydd e i gymodi â'r byd cyfan, beth bynnag fo ein cefndir neu dyfnder ein drygioni. Mae hwn yn foment pwysig, yn arbennig i rai sydd ddim o gefndir Iddewig. Er fod llinach Iesu'n Iddewig a'i fod wedi dod i achub y rhai roedd wedi'u dewis o'r dechrau cyntaf, fe ddaeth hefyd i ddod â'r holl bobl yn ôl i berthynas gyda'r Crëwr.
Yn Actau, pennod 15. mae'r apostol Paul yn cydnabod nad yw'r Ysbryd Gân yn gwahaniaethu rhwng Iddewon a chenhedloedd eraill. Mae unrhyw un sydd gyda ffydd yn Iesu wedi dod yn blentyn dewisedig gan Dduw. Mae Paul yn mynd ymhellach yn Colosiaid, pennod 3, gan ddweud, "Lle mae hyn yn digwydd does dim gwahaniaeth rhwng Iddew a rhywun o genedl arall, neu rhwng cael eich enwaedu neu ddim; does neb yn cael ei ddiystyru am ei fod yn ‛farbariad di-addysg." Fe wnaeth Iesu hi'n berffaith glir yn y Comisiwn Mawr ei fod eisiau i bob cenedl ei adnabod. Mae ei galon er lles y byd!
Gweddi: Diolch Iesu am ddod i achub byd oedd wedi dy wadu am gymaint o amser. Diolch am fod eisiau perthynas gyda fi pan oeddwn yn haeddu dim ac yn bell oddi wrthyt. Dw i'n gwybod dy fod yn caru'r holl fyd, a dw i eisiau bod yn draed a dwylo i ti, gan barhau i gyrraedd allan i'r rhai sy'n bell oddi wrthyt. Defnyddia fi i gario dy gariad i'r cenhedloedd.
Lawrlwytha'r llun ar gyfer heddiw yma.
Ffynonellau:https://www.christianitytoday.com/history/2016/december/magi-wise-men-or-kings-its-complicated.html
Am y Cynllun hwn
Y Nadolig yw'r stori fwyaf erioed i gael ei hadrodd: stori o ffyddlondeb perffaith Duw, pŵer, iachawdwriaeth a chariad bythol. Gad i ni gymryd taith dros y 25 diwrnod nesaf i ddarganfod cynllun dyrys Duw i achub y byd o bechod a'r addewidion gyflawnwyd yn ngenedigaeth ei Fab.
More