Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Adfent: Y Daith hyd at y NadoligSampl

Advent: The Journey to Christmas

DYDD 24 O 25

Mae Ymlid yn arwain at Dyfiant

Mae Luc, pennod 2, adnod 2, yn sôn am Mair a Joseff yn dod ag Iesu yn blentyn i'r deml yn Jerwsalem i'w gyflwyno i Dduw ac anrhydeddu cyfreithiau'r Arglwydd. Yna, dŷn ni'n darllen fod Iesu wedi tyfu'n gryf, yn ddoeth iawn, ac roedd ffafr Duw arno (adnod). Gosododd Iesu esiampl ar sut y dylen ni fyw, ond gall hyn edrych yn amhosibl os dŷn ni'n canolbwyntio'n unig ar y ffaith mai Duw oedd e. Roedd Iesu hefyd yn ddyn, ac yn ôl y Gair, cafodd yntau'r cyfle i ddatblygu a thyfu. Ond beth anogodd dyfiant ein Gwaredwr?

Yn y diwylliant fodern dŷn ni wedi ein peledu gan farchnad hunangymorth sy'n dweud wrthym sut i wneud ein cyrff yn gryfach, bod yn fwy llwyddiannus mewn busnes, helpu ein hunain i ddod dros iselder...Am ychydig bunnoedd, gallwn ddysgu mwy a mwy a gwella ein hunain.

Mae'n bwysig nodi fod y Gair yn sôn am dyfiant Iesu wrth iddo fe a'i deulu anrhydeddu Duw. Yn sicr, mae yna gamau y gallwn ni ei gymryd yn ein nerth ein hunain i dyfu, ond fyddai byth digon o hunangymorth fod wedi gallu paratoi Iesu am yr alwad ar ei fywyd. Ac ni fydd ychwaith fyth digon o hunangymorth yn gallu cymryd lle gras Duw'n ein bywydau. Dŷn ni'n gweld Cristnogion sar eu gwely angau gyda mwy o ddoethineb na'r arweinwyr neu athletwyr mwyaf llwyddiannus. Dŷn ni ddim yn ennill doethineb a nerth drwy geisio helpu ein hunain. Isgynnyrch ymlid ac anrhydeddu Duw ydyn nhw a phrofi'r gras sy'n adnewyddu bywyd.

Yn ystod tymor y Nadolig hwn ffocysa ar beth sy'n bosibl pan wyt yn agosáu at Iesu. Does dim rhaid i ti stryglo i gyrraedd ryw safon bydol anghyraeddadwy. Gorffwysa gan wybod fod doethineb a nerth go iawn yn dod o dy agosatrwydd ato e. Pan rwyt yn ymlid yn ddyddiol, rwyt yn sicr o dyfu a bod yn barod ar gyfer yr hyn y bwriadwyd ti ar ei gyfer.

Gweddi: Dioch Dad mai ti yw ffynhonnell fy noethineb a nerth. Mae dy ras yn rhoi gobaith i mi i'r dyfodol. Dw i'n gwybod dy fod gymaint mwy na'r hyn allwn i fyth ei fod, ac mor falch am dy barodrwydd i rannu dy nerth gyda fi. Pan dw i'n stryglo helpa fi i bwyso arnat ti, a pheidio dibynnu ar fy nerth fy hun.

Lawrlwytha'r llun ar gyfer heddiwyma.

Diwrnod 23Diwrnod 25

Am y Cynllun hwn

Advent: The Journey to Christmas

Y Nadolig yw'r stori fwyaf erioed i gael ei hadrodd: stori o ffyddlondeb perffaith Duw, pŵer, iachawdwriaeth a chariad bythol. Gad i ni gymryd taith dros y 25 diwrnod nesaf i ddarganfod cynllun dyrys Duw i achub y byd o bechod a'r addewidion gyflawnwyd yn ngenedigaeth ei Fab.

More

Hoffem ddiolch i Church of the Highlands am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.churchofthehighlands.com/