Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Adfent: Y Daith hyd at y NadoligSampl

Advent: The Journey to Christmas

DYDD 23 O 25

Brenin, Duw, a Gwaredwr

Yn Mathew, pennod 2, adnod 11. mae'r gwŷr doeth yn rhoi anrhegion gwerthfawr o aur, thus a myrr i Iesu. Oeddet ti'n gwybod bod yna arwyddocâd arbennig yn yr Hen Destament ac yn adlewyrchu'r un ddaethon nhw i addoli?

Mae aur yn cynrychioli brenhiniaeth yn Salm 72, adnod 15, ac fe wnaeth rhodd o aur gadarnhau Iesu fel Brenin y Brenhinoedd. Mae thus yn cydnabod mai Iesu yw Duw. Yn Exodus, pennod 30, adnodau 22 i 25, defnyddiwyd myrr i eneinio pobl i bwrpas arbennig. Derbyniodd Iesu myrr am y tro cyntaf adeg pan anwyd e. Y tro olaf y byddai'n derbyn myrr fyddai ar y groes ac yn ystod ei gladdu. Mae'r rhodd hwn yn arwydd o bwrpas arbennig Iesu. Byddai'n marw ar y groes dros ein pechodau ac yn atgyfodi i fywyd, gan orchfygu marwolaeth.

Mae'r adnod yn Mathew, pennod 2 yn sôn fod y gwŷr doeth wedi "disgyn ar eu gliniau o'i flaen a'i addoli." Dŷn ni'n addoli Iesu fel ein Duw am fod ganddo "awdurdod llwyr i reoli popeth yn y nefoedd ac ar y ddaear" (Mathew, pennod 28, adnodau 18 i 20). Dŷn ni'n addoli Iesu fel ein Duw am mai "drwyddo y crëwyd popeth sy'n bod" (Ioan, pennod 1, adnod 3). Gofynna i Dduw ddefnyddio y cyfnod Adfent hwn i ddod â ti'n agosach at Iesu drwy addoliad, yn union fel y daeth y seren â'r gwŷr doeth i 'w addoli e,

Gweddi: Da, diolch am fy arwain atat ti. Yn union fel y gwnest ti ddod â'r gwŷr doeth yn agos at Iesu, tyrd ä fi'n agosach at Iesu nac erioed o'r blaen. Iesu, dw i'n dy addoli di fel fy mrenin, fy Nuw, a'm Gwaredwr! Ysbryd Glân, helpa fi i arwain pobl eraill sy'n bell oddi wrtho ti i agosáu ac addoli Iesu.

Lawrlwytha'r llun ar gyfer heddiw yma..

Ffynonellau: John MacArthur Mathew, pennod 1 i 7, William Hendriksen Exposition of the Gospel According to Matthew,David Platt,  Exalting Jesus in Matthew, Grant R. Osborne, Matthew, (Zondervan Exegetical Commentary Series on the New Testament).
Diwrnod 22Diwrnod 24

Am y Cynllun hwn

Advent: The Journey to Christmas

Y Nadolig yw'r stori fwyaf erioed i gael ei hadrodd: stori o ffyddlondeb perffaith Duw, pŵer, iachawdwriaeth a chariad bythol. Gad i ni gymryd taith dros y 25 diwrnod nesaf i ddarganfod cynllun dyrys Duw i achub y byd o bechod a'r addewidion gyflawnwyd yn ngenedigaeth ei Fab.

More

Hoffem ddiolch i Church of the Highlands am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.churchofthehighlands.com/