Adfent: Y Daith hyd at y NadoligSampl
Hel Celc
Mae yna ennyd yng nghanol prysurdeb nos Nadolig pan mae'r Beibl yn nodi, "Ond roedd Mair yn cofio pob manylyn ac yn meddwl yn aml am y cwbl oedd wedi cael ei ddweud am ei phlentyn." Meddylia am Mair yn cymryd ennyd i feddwl am pob manylyn. Roedd ei mab wedi cyrraedd. Roedd Joseff dal gyda hi. Daeth bugeiliaid i'w gweld a dweud yr hanes am yr angylion wrth bawb. Roedd pawb yn dathlu gwyrth ei mab. Roedd yn foment gwerthfawr o ffyddlondeb Duw a roedd Mair yn cadw'r cyfan yn agos i'w chalon.
Dŷn ni'n hel celc i reswm. Mae amser yn dod pan mae'n rhaid troi at y cyflenwad dŷn ni wedi'i gadw i'n cynnal mewn cyfnodau o angen. Am fod Mair yn gwybod am y proffwydoliaethau am aberth y Meseia, byddai hi'n gwybod y byddai ei mab gwerthfawr yn profi dioddefaint anghredadwy ryw ddiwrnod. Pan safodd wrth droed y groes wrth i'w mab hi cael ei groeshoelio, mae'n rhaid ei bod wedi gorfod cofio am bob atgof o ffyddlondeb Duw, fel y gallai barhau i gredu yn atgyfodiad Iesu. Yn ei hennyd o boen roedd ganddi brawf y byddai Duw'n cadw at ei addewid.
Pan dŷn ni'n profi tymhorau o weld ffyddlondeb "pen y mynydd" Duw, dŷn ni angen storio gwirionedd ein profiad a'i gadw at eto. Yn Ioan, pennod, adnod, mae Iesu'n ei gwneud hi'n amlwg, "Dim ond trafferthion gewch chi yn y byd hwn." Ond mae'n dweud wrthon ni i godi'n calonnau am ei fod wedi concro'r byd. Yng nghyfnodau anodda ein bywydau, dŷn ni angen cofio am fuddugoliaeth Iesu a chofio am yr holl ffyrdd dŷn ni wedi gweld ei ddaioni. Pan fyddi'n profi ffyddlondeb Duw'n dy fywyd, cama nôl a storia e fel trysor yn dy galon. Meddylia amdano e'n gyson. Pan fydd dy ddyddiau anodda'n dod, byddi'n gallu goroesi.
Gweddi: Dad, dw i'n dy glodfori am dy fod yn ffyddlon. Dw i wedi'i weld gyda fy llygad fy hun a dw i ddim am ei anghofio, Helpa fi gyda bwriad i storio'r cyfnodau hynny dw i'n dy weld yn cyflawni dy addewidion fel, pan ddaw cyfnodau anodd, bydd fy ffydd yn aros yn gryf.
Lawrlwytha'r llun ar gyfer heddiwyma.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Y Nadolig yw'r stori fwyaf erioed i gael ei hadrodd: stori o ffyddlondeb perffaith Duw, pŵer, iachawdwriaeth a chariad bythol. Gad i ni gymryd taith dros y 25 diwrnod nesaf i ddarganfod cynllun dyrys Duw i achub y byd o bechod a'r addewidion gyflawnwyd yn ngenedigaeth ei Fab.
More