Adfent: Y Daith hyd at y NadoligSampl
Mae Gwerth mewn Disgwyl
Mae Luc, pennod 2, adnodau 25 i 32 yn adrodd hanes Simeon, dyn wnaeth Duw addo iddo y byddai'n cael gweld y Meseia cyn marw. Disgwyliodd Simeon ei holl fywyd i Dduw gadw at ei addewid, a gall e ddysgu rywbeth i ni am ddyfalbarhad a bod yn amyneddgar. Mae'r Gair yn dweud fos Simeon yn ddyn da a duwiol...a roedd dylanwad yr Ysbryd Glân yn drwm ar ei fywyd." Roedd hyn mor gryf fel y symbylwyd e gan yr Ysbryd Glân i ymweld â'r deml. ac yno cyflawnwyd addewid Duw. Cwrddodd â Mair a Joseff a magu Iesu'n ei freichiau. Yn y foment honno roedd disgwyl ei holl fywyd wedi bod yn werth y disgwyl.
Dychmyga fawredd y teimlad o ddal y portread corfforol o ffyddlondeb Duw yn dy freichiau. Mae Luc yn cofnodi fod Simeon wedi cymryd Iesu'n ei freichiau a "dechrau moli Duw." Dŷn ni ddim yn gwybod os wnaeth Simeon wylo neu ddawnsio, ond tase ti'n rhoi dy hun yn ei esgidiau, byddai dy ymateb o bosib yn rywbeth tebyg. Fyddai ymateb arall ddim mor addas â moli.
Paid colli calon os wyt ti wedi bod yn dal gafael mewn addewid gan Dduw am beth sy'n edrych fel oes. Mae e'n ffyddlon sac mae ei amseru e'n berffaith. Pa un ai os yw d'addewid yn cael ei gyflawni mewn wythnosau neu ar ôl oes o ddisgwyl, bydd y canlyniad yn werth y disgwyl.
Gweddi: Dad, dw i'n dy addoli di am dy ffyddlondeb! Dw i'n gwybod dy fod yn ddibynadwy a bod d'addewidion yn wir,. Wna i fyth stopio credu'n dy addewidion, a dew i'n disgwyl yn eiddgar am y dydd y byddan nhw'n cael eu cyflawni. Dw i'n gwybod bod dy amseru di'n berffaith. Arhosaf yn ffyddlon i ti tra'n disgwyl, a dw i'n d'addoli di wrth ddisgwyl am eu cyflawni!
Lawrlwytha'r llun ar gyfer heddiw yma.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Y Nadolig yw'r stori fwyaf erioed i gael ei hadrodd: stori o ffyddlondeb perffaith Duw, pŵer, iachawdwriaeth a chariad bythol. Gad i ni gymryd taith dros y 25 diwrnod nesaf i ddarganfod cynllun dyrys Duw i achub y byd o bechod a'r addewidion gyflawnwyd yn ngenedigaeth ei Fab.
More