Adfent: Y Daith hyd at y NadoligSampl
Ffydd heb Oedi
Meddylia am amser pan glywaist ti gan Dduw, pa un ai oedd yn addewid, yn gadarnhad, neu'n argyhoeddiad. Beth oedd dy ymateb uniongyrchol? Wnest ti ymateb i'r hyn ddwedodd, neu wnest ti eistedd a myfyrio pa un ai ei lais e oedd yna a'i peidio? Falle dy fod yn siŵr o beth glywaist ti ond eto wedi oedi. (Ymwadiad: mae hi'n iawn - mae pob un ohonom wedi gwneud hyn!)
Mae Luc, pennod 2 yn dweud bod y bugeiliaid wedi rhuthro i ffeindio Iesu ar ôl i'r angylion ddweud y newyddion da am ei enedigaeth. Yn lle aros a gadael i amheuaeth gymryd drosodd fe wnaethon nhw ymateb ar unwaith. Cymrodd hyn, ffydd enfawr! Wrth gwrs, roedden nhw eisiau cwrdd ag Iesu, ond roedd ganddyn nhw bryderon bydol. Beth oedden nhw'n mynd i wneud efo'r praidd o ddefaid? Ddylen nhw ddweud wrth eu teuluoedd gyntaf? Oedden nhw wedi gwisgo'n barchus? A oedd bugeiliaid yn ddigon teilwng i gwrdd Brenin y Brenhinoedd? Wnaethon nhw ddim gadael i unrhyw un o'r cwestiynau y bydden ni wedi gofyn yn yr un sefyllfa eu rhwystro rhag ymateb ar unwaith i Dduw.
Wrth ddilyn Iesu mae angen i ni gofleidio'r math yma o ffydd. Pan fyddwn yn oedi gyda Duw, dŷn ni'n creu cyfle i amheuaeth, ofn ac ansicrwydd fagu - a nid yw run o'r rhain yn dod oddi wrtho e. Pan fyddi'n clywed gair penodol ganddo. trystia'n ei arweiniad. Bydd yn darparu'r hyn rwyt ei angen i wneud beth mae e wedi'i ofyn. Y cwbl sydd raid i ti ei wneud yw ymateb. Mae angen i ti gyffroi dy fydd a phenderfyna, o flaen llaw, y byddi'n symud pan mae Duw'n dweud wrthyt ti i symud, beth bynnag ddaw!
Gweddi: Dad, diolch am dy amynedd gyda mi. Maddau i mi am y cyfnodau dw i wedi oedi pan rwyt ti wedi siarad â mi. Dw i eisiau dilyn dy gynllun ar gyfer fy mywyd. Cryfha fy ffydd, a helpa fi i ymateb yn sydyn pan dw i'n clywed gennyt ti.
Lawrlwytha'r llun ar gyfer heddiwyma.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Y Nadolig yw'r stori fwyaf erioed i gael ei hadrodd: stori o ffyddlondeb perffaith Duw, pŵer, iachawdwriaeth a chariad bythol. Gad i ni gymryd taith dros y 25 diwrnod nesaf i ddarganfod cynllun dyrys Duw i achub y byd o bechod a'r addewidion gyflawnwyd yn ngenedigaeth ei Fab.
More