Adfent: Y Daith hyd at y NadoligSampl
Y Busnes o Fynd tu hwnt i Ddisgwyliadau
O ganlyniad i broffwydoliaeth, roedd yr Iddewon wedi rhagweld gwaredwr am ganrifoedd, ac roedden nhw'n disgwyl brenin a fyddai'n eu gollwng nhw'n rhydd a sefydlu teyrnas ddaearol. Dychmyga eu syndod ac anghrediniaeth pan glywon nhw fod eu gwaredwr wedi'i eni i deulu cyffredin a'i osod mewn cafn bwydo anifeiliaid ym Methlehem; lle a thref digon di-nod. Nid dyma oedd yr Iddewon yn ei ddisgwyl.
Ond, nid bwriad Duw yw ateb disgwyliadau pobl. Bwriad Duw yw mynd tu hwnt i'w disgwyliadau. Mae Iesu'n esiampl anhygoel o ddaioni annherfynol Duw. Drwy Iesu, atebodd dduw anghenion yr Iddewon, tu hwnt i'r hyn roedden nhw'n ei ddisgwyl. Darparodd iddyn nhw gymaint mwy na llwyddiant diflanedig teyrnas ddaearol. Sefydlodd ei deyrnas tragwyddol, darparu iachawdwriaeth, ailgymodi perthynas y ddynoliaeth gyda Duw, a dod â gobaith i fyd toredig.
Pa mor aml ydyn ni'n gosod ein disgwyliadau o flaen Duw, gan dybio y bydd yn gweithio i'n llinell amser a chynllun ni? Dydy'r patrwm yma dda i ddim yn ein ffydd, oherwydd anaml y bydd Duw'n ymateb i'n hamserlen ni, a phrin y mae ei atebion yn cyfateb i'r hyn dŷn ni'n ei ragweld.
Dŷn ni angen gweld y gwahaniaeth rhwng gosod disgwyliadau ar Dduw yn erbyn trystio yn ei gynllun e a bod yn ddisgwylgary bydd e'n cyflawni ei fwriad yn ein bywyd. Gall gosod ein disgwyliadau ar Dduw ein rhoi ar drywydd siomiant, rhwystredigaeth a dicter pan nad ydyn nhw'n cael eu cwrdd, ond mae bod â disgwyliadau iachusol o Dduw yn gallu bwydo ein ffydd.
Beth mae Duw wedi'i osod ar dy galon? Y Nadolig hwn, derbynia gysur o'r ffaith fod Duw eisiau gwneud mwy na chwrdd â'th ddisgwyliadau. Mae e eisiau mynd tu hwnt iddyn nhw. Cymer anogaeth o'r ffaith y gall Duw wneud cymaint mwy na allwn fyth ei ddychmygu. Disgwylia i Dduw weithredu, trystia ei broses, a gwylai dy ffydd yn tyfu.
Gweddi: Dad, diolch am fy atgoffa'n Iesu dy fod yn cwrdd ag anghenion nad ydw i hyd yn oed yn sylweddoli sydd gen i. Y Nadolig hwn dw i'n gweddïo am hyder am yr hyn dw i'n obeithio ynddo, ond ar hyn o bryd dw i ddim yn ei weld eto. Helpa i fy ffydd yn dy ffyddlondeb di dyfu. Diolch am fod yn dduw sy'n mynd tu hwnt i ddisgwyliadau. Mae dy amseru'n berffaith, a dy gynllun di sydd orau. Mynna dy ffordd yn fy mywyd!
Lawrlwytha'r llun ar gyfer heddiw yma.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Y Nadolig yw'r stori fwyaf erioed i gael ei hadrodd: stori o ffyddlondeb perffaith Duw, pŵer, iachawdwriaeth a chariad bythol. Gad i ni gymryd taith dros y 25 diwrnod nesaf i ddarganfod cynllun dyrys Duw i achub y byd o bechod a'r addewidion gyflawnwyd yn ngenedigaeth ei Fab.
More