Adfent: Y Daith hyd at y NadoligSampl
![Advent: The Journey to Christmas](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F13463%2F1280x720.jpg&w=3840&q=75)
Heddwch o Bwrpas Dwyfol
Gall ofn dy lethu. Gall wneud i ti redeg a chuddio. Mae Satan wrth ei fodd yn denu ein sylw gydag ofn Beichiogodd Mair a "roedd Joseff, oedd yn mynd i'w phriodi, yn ddyn da a charedig. Doedd e ddim eisiau gwneud esiampl ohoni a'i chyhuddo hi'n gyhoeddus, felly roedd yn ystyried yn dawel fach i ganslo'r briodas." Ond gwelodd angel yn dod ato mewn breuddwyd i dawelu ei feddwl a dweud ei fod wedi'i ddewis i fagu Mab Duw ar y ddaear.
Ymateb cyntaf Joseff i feichiogrwydd Mair oedd ceisio amddiffyn enw da, fo a Mair, gan ei fod yn ofni'r goblygiadau. Doedd ganddo run ffordd o brofi honiad Mair ei bod hi'n wyryf, a roed e'n mynd i ddod â'r dyweddïad i ben. Ynghanol amser anodd a phoenus i Joseff, daeth Duw ato mewn breuddwyd, herio ei ofn gydag heddwch a pwrpas dwyfol, a'i osod ar daith a fyddai'n ei wneud yn dad daearol i'r dyn mwyaf mae'r byd wedi'i adnabod erioed.
Yn ein cyfnodau o ofn, mae Duw eisiau chyflwyno gwirionedd i ni, a thorri grym pa bynnag gelwydd sy'n ein dal yn ôl. Pan fyddwn yn chwilio am ei heddwch, bydd yn gorchfygu ein hofnau gyda'i gariad. Gofynna i Dduw ddod a chyflwyno gwirionedd dros unrhyw gelwyddau sy'n rhoi pryder i ni. Bydd yn ymateb mewn ffyddlondeb ac yn ein galluogi i symud tuag at y pwrpas anhygoel sydd ganddo ar dy gyfer.
Gweddi: Dad, mae dy Air yn dweud nad wyt ti wedi rhoi ysbryd o ofn i ni, ond ysbryd o rym, a chariad, a meddwl clir. Diolch am roi popeth i mi sydd ei angen i symud ymlaen, pan mae'r gelyn yn ceisio fy nal yn ôl. Dw i'n dy foli bod rhaid i ofn blygu i enw Iesu. Yn ystod cyfnod y Nadolig hwn, a phob tro, helpa fi i garcharu ofnau a dod â nhw atat ti ar unwaith, fel nod dy heddwch yn gallu teyrnasu'n fy mywyd.
Lawrlwytha'r llun ar gyfer heddiw yma.
Am y Cynllun hwn
![Advent: The Journey to Christmas](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F13463%2F1280x720.jpg&w=3840&q=75)
Y Nadolig yw'r stori fwyaf erioed i gael ei hadrodd: stori o ffyddlondeb perffaith Duw, pŵer, iachawdwriaeth a chariad bythol. Gad i ni gymryd taith dros y 25 diwrnod nesaf i ddarganfod cynllun dyrys Duw i achub y byd o bechod a'r addewidion gyflawnwyd yn ngenedigaeth ei Fab.
More