Adfent: Y Daith hyd at y NadoligSampl
Gwerthfawroga Safbwynt Duw Fwyaf
Ar ôl i Dduw ddadlennu ei gynllun i Mair, mai hi fyddai mam Iesu, ymatebodd gyda chân anhygoel o fawl. Clodforodd Dduw am ei barodrwydd i ddefnyddio rywun gostyngedig i weithredu ei bwrpas mawr, ac addolodd ef am ei dosturi, ffyddlondeb, a'i rym wrth weithredu ei addewid o Waredwr.
Un o'r pethau mwyaf nertho i Mair ddatgan yn y gân oedd, "Roedd yn gwybod bod ei forwyn yn ferch gyffredin iawn, ond o hyn ymlaen bydd pobl o bob oes yn dweud fy mod wedi fy mendithio." Roedd hwn yn ddatganaid cryf o ffydd yn Nuw, oherwydd byddai'r dag a roddwyd iddi'n debygol o ddod â beirniadu a chywilydd gan bron pawb roedd hi'n ei adnabod. Pwy oedd yn m yn mynd i gredu fod Mair yn wyryf. Roedd angen angel ar ei dyweddi ei hun i gael sicrwydd i gredu ei stori. Ddwy fil o flynyddoedd yn ddiweddarach mae llawer yn dal i gwestiynu ei morwyndod.
O wybod mai felly byddai hi, canolbwyntiodd Mair ar y fendith o gael ei dewis gan Dduw ar gyfer pwrpas mor bwysig. Gwyddai y byddai'r rheiny fyddai'n credu'n ei Mab yn ei hanrhydeddu a thrystio Gair Duw am ei gonestrwydd. Wnaeth hi ddim poeni am y cymhlethdodau y byddai, o bosib, yn eu hwynebu'n y gymdeithas neu gyda'i theulu. Doedd dim angen iddi amddiffyn ei hun. Dewisodd Mair drystio Duw, yn hytrach na gwrthsefyll ei galwad, hyd yn oed os byddai'n golygu bywyd cyfan o gael ei chamddeall. Beth bynnag mae Duw wedi gofyn i ti ei wneud, paid gadael. i unrhyw erledigaeth neu feirniadaeth tebygol gan eraill, dy rwystro rhag bod yn ufudd. Chawsom ni ddim ein galw i fod gyfforddus, derbyniol, neu ein dirnad. Dŷn ni wedi ein galw i wneud gwahaniaeth!
Gweddi: Dad, diolch am ddewis rywun sydd mor ostyngedig â fi i gael ei ddefnyddio ers dy ogoniant. Dw i'n ymrwymo heddiw i wneud beth bynnag rwyt ti am i mi ei wneud, hyd yn oed os yw'n anodd. Hyd yn oed os nad yw'r pobl o'm cwmpas ddim yn deall Mae'r hyn rwyt ti'n ei feddwl yn bwysig iawn i mi. Dw i'n gwybod fod dy gynlluniau yn haeddiannol o unrhyw wrthwynebiad y gallafei wunebu'n y byd.
Lawrlwytha'r llun ar gyfer heddiw yma.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Y Nadolig yw'r stori fwyaf erioed i gael ei hadrodd: stori o ffyddlondeb perffaith Duw, pŵer, iachawdwriaeth a chariad bythol. Gad i ni gymryd taith dros y 25 diwrnod nesaf i ddarganfod cynllun dyrys Duw i achub y byd o bechod a'r addewidion gyflawnwyd yn ngenedigaeth ei Fab.
More