Adfent: Y Daith hyd at y NadoligSampl
Beth sydd ar ochr arall dy "Gwnaf"
Mae Mair yn gwneud y peth edrych mor hawdd. Mae'r angel Gabriel yn dweud wrthi y bydd hi'n rhoi genedigaeth i Fab Duw, ac mae hi'n ildio ar unwaith i'w rôl yng nghynllun Duw. Beth oedd ar ei phen hi? Doedd ganddi ddim sicrwydd o ganlyniad cyfforddus. Yn wyryf, wedi'i dyweddïo i briodi, mae'n siŵr ei bod yn gwybod pa mor anodd fyddai geni a magu Iesu. Yr unig sicrwydd oedd ganddi oedd Gair Duw, ond roedd yn ddigon iddi ddweud, "gwnaf."
Yn 1 Pedr, pennod 1, mae'r apostol Pedr yn dweud bod diffuantrwydd ein ffydd yn cael ei ddadlennu, drwy'r treialon dŷn ni'n eu hwynebu. Mae Duw'n aml yn gofyn am ein hymddiriedaeth drwy sefyllfaoedd anodd ac anghyfforddus, ac sy'n ymddangos, ar yr olwg gyntaf, yn amhosib. Ond, pa mor aml ydyn ni'n ymateb fel Mair? Mae'n hawdd iawn gadael i'n cwestiynu o Dduw rwystro'r hyn mae e am ei gyflawni drwom ni. Efallai ein bod eisiau bod yn bur, ond ydyn ni'n fodlon dweud "gwnaf" wrth Dduw a cherdded drwy dân?
Does bosib fod Mair yn deall y cwbl oedd yr ochr arall i'w hymateb i Dduw, ond roedd hi'n ei drystio. O ganlyniad, daeth Duw a Iesu i'r byd, drwy Mair, gan gynnig i ni faddeuant am ein pechodau a thrwsio'r berthynas â Duw.
Yn ystod tymor y Nadolig hwn, myfyria ar ymateb Mair i gynllun Duw ar gyfer genedigaeth Iesu. Pa sialens mae Duw wedi'i osod ar dy .galon? Pa un ai trwsio perthynas neu gamu allan mewn ffydd, i gerdded mewn ffydd yn y pwrpas sydd ganddo ar dy gyfer, cymer gysur o wybod fod, ar yr ochr arall i'th "gwnaf" i Dduw, ganlyniad mwy na allet ti fyth ei amgyffred.Gweddi: Dad, dw i'n hyderus fod dy ewyllys yn berffaith. Dw i'n gweddïo y byddi di'n gosod dy ddymuniadau ar fy nghalon, gan osod fy mreuddwydion ochr yn ochr â dy rai di. Diolch am yr esiampl roddaist i mi yn Mair. Rho i mi y doethineb, hyder. a ffydd dw i angen i ddweud "gwnaf" i dy gynllun yn fy mywyd.
Lawrlwytha'r llun ar gyfer heddiw yma.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Y Nadolig yw'r stori fwyaf erioed i gael ei hadrodd: stori o ffyddlondeb perffaith Duw, pŵer, iachawdwriaeth a chariad bythol. Gad i ni gymryd taith dros y 25 diwrnod nesaf i ddarganfod cynllun dyrys Duw i achub y byd o bechod a'r addewidion gyflawnwyd yn ngenedigaeth ei Fab.
More