Adfent: Y Daith hyd at y NadoligSampl
Duw'r Amhosib
Yn Luc, pennod 1, adnod 34 ar ôl dweud wrth Mair y bydde hi'n geni Iesu gofynnodd, "“Sut mae'r fath beth yn bosib? Dw i erioed wedi cael rhyw gyda neb.” Fe wnaeth Mair, beth dŷn ni'n aml yn ei wneud pan dŷn ni'n methu gweld sut mae pethau'n mynd i droi allan. Cwestiynodd sut allai rywbeth oedd yn ymddangos yn amhosibl fod yn bosibl.
Ond atebodd yr angel, “Bydd yr Ysbryd Glân yn dod arnat ti, a nerth y Duw Goruchaf yn gofalu amdanat ti. Felly bydd y plentyn fydd yn cael ei eni yn berson sanctaidd – bydd yn cael ei alw yn Fab Duw. Meddylia! Mae hyd yn oed Elisabeth, sy'n perthyn i ti, yn mynd i gael babi er ei bod hi mor hen. Roedd pawb yn gwybod ei bod hi'n methu cael plant, ond mae hi chwe mis yn feichiog! Rwyt ti'n gweld, does dim byd sy'n amhosib i Dduw ei wneud.”
Hyd yn oed mewn tymor hyfryd fel y Nadolig, gall fod yn anodd i weld sut mae Duw'n gweithio'n ein sefyllfaoedd amhosibl. Heddiw, gad i'r ddau feichiogrwydd gwyrthiol hyn dy atgoffa o rym Duw. Meddylia am Iesu, a mab Elisabeth, Ioan Fedyddiwr, a sut y gwnaeth eu genedigaethau newid cwrs hanes. Gall Duw wneud gymaint mwy nag wyt yn gallu ei ddychmygu ynghanol sefyllfaoedd amhosibl. Rho dy sefyllfa iddo e, a thrystia y bydd e'n ffyddlon. Derbyn anogaeth: Ni fydd Duw fyth yn methu!
Gweddi: Dad, Rwyt ti'n dda! Dw i'n dy foli am dy rym - ni all dim sefyll yn dy erbyn! Diolch bod gen ti gynllun ar gyfer fy mywyd, am anfon dy fab drosof fi, ac am roi i mi'r nerth i wynebu sefyllfaoedd sy'n ymddangos yn amhosib. Wrth i mi drystio'n dy nerth di, a nid yn un fi, helpa fi i wedl Y Nadolig fel esiampl nad yw dim yn amhosib i ti!
Lawrlwytha'r llun ar gyfer heddiw yma.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Y Nadolig yw'r stori fwyaf erioed i gael ei hadrodd: stori o ffyddlondeb perffaith Duw, pŵer, iachawdwriaeth a chariad bythol. Gad i ni gymryd taith dros y 25 diwrnod nesaf i ddarganfod cynllun dyrys Duw i achub y byd o bechod a'r addewidion gyflawnwyd yn ngenedigaeth ei Fab.
More