Darganfod Gwirionedd Duw Yn Stormydd BywydSampl
Gwirionedd Treialon
Os wyt ti'n rhy ifanc i gofio ffonau car a chwaraewyr 8-trac, efallai nad wyt ti'n gwybod pwy yw Keith Green. Ond mae'r geiriau a ganodd yn y gân "Trials Turned to Gold" yr un mor berthnasol heddiw ag yr oedden nhw pan wnaeth eu rhyddhau ym 1977.
Nid yw'r olygfa o'r fan hon yn agos at yr hyn ydyw i ti. Ceisiais weld dy gynllun i mi, ond dim ond fel roeddwn i'n gwybod y gwnes i weithredu. O Arglwydd, maddeu'r amseroedd y ceisiais ddarllen dy feddwl 'achos wnes di ddweud pe bawn yn llonydd, yna byddwn yn clywed dy lais.
Mae llawer ohonom yn wynebu treialon anodd, real iawn bob dydd. Dydy bod yn Gristion ddim yn ein hachub rhag hyn. Ond mae gwybod bod ein Gwaredwr wrth ein hochr ac yn gallu gweld y darlun mawr waeth beth fo'r treialon a wynebwn yn gysur am lawer o resymau. Mae'n ein sicrhau nad ydym ar ein pennau ein hunain yn ein brwydrau a'n poen. Ac mae'n rhoi golwg uwch i ni o'n trafferthion - y wybodaeth eu bod yn cyflawni mwy o bwrpas ynom ni ac yn y byd.
Cawn ein hatgoffa o’r pwrpas hwn yn Iago 1:2-4 lle mae Iago yn rhoi’r gorchymyn sy’n ymddangos yn afresymol i ni gael llawenydd yn ein treialon.
Cael llawenydd mewn treialon? Mae'n ymddangos bron yn amhosibl! Ond o safbwynt Duw, mae'n gwneud synnwyr. Mae ein treialon yn dod â ni yn nes ato ac yn ein gadael yn brin o ddim.
Efallai nad ydym eisiau wynebu treialon yn ein bywydau, ac efallai na fyddwn yn eu gweld ar unwaith yn fuddiol neu'n angenrheidiol. Ond dydy safbwynt Duw ddim gynnon ni. Neu fel y dywedodd Keith Green, " Nid yw yr olygfa oddi yma ddim yn agos i'r hyn ydyw i Dduw."
Hyd yn oed pan fydd ein byd yn crynu, nid ydym byth yn gadael dwylo, na chynllun, Duw.
Gweddi: Annwyl Dduw, diolch i ti am y gobaith sydd gennyf ynot ti hyd yn oed trwy dreialon. Helpa fi i gael dy bersbectif wrth i mi brofi anawsterau mewn bywyd. Dw i'n ymddiried ynot ti t gyflawni pethau da trwy fy mrwydrau. Diolch i ti, hyd yn oed pan fydd fy myd yn simsan, y gallaf bob amser fod yn hyderus ynot ti. Amen.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Fel Cristnogion, nid ydym yn ddiogel o drafferthion yn y byd hwn. Yn wir, mae Ioan 16:33 yn addo y byddan nhw'n dod. Os wyt ti'n wynebu stormydd bywyd ar hyn o bryd, mae'r defosiwn hwn ar dy gyfer di. Mae'n ein hatgoffa o'r gobaith sy'n ein cael drwy stormydd bywyd. Ac os nad wyt ti'n wynebu unrhyw frwydrau yn y foment hon, bydd yn rhoi'r sylfaen iti a fydd yn dy helpu di trwy dreialon yn y dyfodol.
More