Darganfod Gwirionedd Duw Yn Stormydd BywydSampl
Edrych tu hwnt i’n n Treialon
Pan fyddwn yn mynd trwy stormydd, mae ein byd yn aml yn dechrau troi o'n cwmpas ein hunain. Dŷn ni’n canolbwyntio'n gyflym iawn ar ein problemau ein hunain. Weithiau mae hynny'n fecanwaith goroesi - mae angen i ni ganolbwyntio ar ofalu amdanom ein hunain i ddod trwy ein problem. Ond dro arall, mae'r reddf honno o edrych i mewn ar ein hunain yn ein brifo ni mewn gwirionedd.
Mae ein perfedd yn dweud wrthym am wylio drosom ein hunain oherwydd na fydd neb arall, ac, yn ein munudau o wendid, mae'n hawdd credu'r celwydd hwnnw. Ond mae Eseia 58:10-11 yn rhoi darlun gwahanol. Mae'n dweud wrthon ni, os byddwn yn canolbwyntio ar wasanaethu'r newynog a'r gorthrymedig, bydd Duw yn bodloni ein hanghenion. Ac mae'n dangos inni'r harddwch o edrych heibio ein bywydau ein hunain a bendithio eraill yn lle hynny.
Mae'r darn hardd hwn yn dangos i ni fod caru eraill yn anrheg! Ac mae'n anrheg dŷn ni'n arbennig o gymwys i'w derbyn pan fyddwn ni'n mynd trwy ddioddefaint.
Mae angen ein cariad fwyaf ar bobl eraill pan fyddan nhw’n dioddef. A phan fyddwn yn mynd trwy ein treialon ein hunain, dŷn ni’n arbennig o abl i ddeall dioddefaint eraill. Hyd yn oed os nad yw eu treialon yr un peth â'n rhai ni, gallwn ddeall - hyd yn oed os mewn ffordd fach - y boen y maen nhw’n mynd drwyddo.
Mae deall yn ein helpu i garu eraill yn well! Yn lle edrych ar ein hunain drwy'r amser, gallwn edrych o'n cwmpas am gyfleoedd i fendithio eraill.
Drwy gadw ein llygaid ar Dduw a chanolbwyntio ar anghenion eraill yn lle ein rhai ni, dŷn ni’n cael persbectif newydd. Dŷn ni’n cyfnewid poen a gwendid ein problemau ein hunain er mwyn llawenydd a buddugoliaethau helpu eraill. A dŷn ni'n dod yn agosach at Dduw yn y broses.
Gweddi: Annwyl Dduw, plîs rho lygaid clir imi weld y rhai o'm cwmpas sydd angen cymorth. Dangosa i mi beth fyddet ti am imi ei wneud yng nghanol fy nhreialon i helpu'r rhai sydd mewn sefyllfaoedd tebyg. Diolch am roi'r gallu i mi brofi'r fendith o wasanaethu eraill hyd yn oed pan fo fy mywyd fy hun yn anodd. Amen.
Am y Cynllun hwn
Fel Cristnogion, nid ydym yn ddiogel o drafferthion yn y byd hwn. Yn wir, mae Ioan 16:33 yn addo y byddan nhw'n dod. Os wyt ti'n wynebu stormydd bywyd ar hyn o bryd, mae'r defosiwn hwn ar dy gyfer di. Mae'n ein hatgoffa o'r gobaith sy'n ein cael drwy stormydd bywyd. Ac os nad wyt ti'n wynebu unrhyw frwydrau yn y foment hon, bydd yn rhoi'r sylfaen iti a fydd yn dy helpu di trwy dreialon yn y dyfodol.
More