Darganfod Gwirionedd Duw Yn Stormydd BywydSampl
Y Rhodd o Dosturi
Os oes unrhyw un erioed wedi cael yr hawl i fod yn anhapus, Hellen Keller oedd honno. Roedd hi'n ddall ac yn fyddar, ac roedd ei hanableddau yn ei gwneud hi'n gwbl analluog i brofi'r byd yn y ffordd y mae'r rhan fwyaf ohonom yn ei wneud. Roedd gan bawb o'i chwmpas alluoedd nad oedd ganddi. Ond roedd ganddi benderfyniad, a rhywbeth hyd yn oed yn fwy gwerthfawr - tosturi
Creda, pan y byddi fwyaf anhapus, fod rhywbeth i ti ei wneud yn y byd," meddai. "Cyn belled ag y gelli di felysu poen rhywun arall, dydy bywyd ddim yn ofer."
A hithau’n oedolyn, treuliodd Helen lawer o’i hamser yn ymweld ag ysbytai i filwyr a oedd wedi cael eu dallu neu eu byddaru gan ryfel. Aeth hi i ddangos gobaith iddyn nhw y gallent nhw fyw bywydau cynhyrchiol ar ôl eu hanafiadau. Ac fe wnaeth hi eu hannog i beidio â rhoi'r gorau i'w dyfodol. Rhoddodd ei hanableddau gyfle iddi helpu'r bobl hyn sy'n wynebu brwydrau anhygoel.
Meddylia am hynny o safbwynt Helen. Gallai'n hawdd fod wedi dweud, "Dw i'n fyddar ac yn ddall, ac mae'r dynion hyn yn ddall. Mae gen i broblemau llawer mwy nag sydd ganddyn nhw." Gallai fod wedi dewis bod yn chwerw, yn ddig, neu wedi canolbwyntio ar ei brwydrau ei hun. Ond yn lle hynny, dewisodd ddefnyddio ei hamgylchiadau i ddangos tosturi at y rhai o'i chwmpas.
Mae'n anodd gadael ein "hawl" ein hunain i ymdrybaeddu yn ein poen a dewis tosturi at eraill. Ond pan dŷn ni'n dioddef, mae gennym ni allu uwch i gydymdeimlo ag eraill.
Yn lle cymharu problemau neu farnu pwy sy'n ei waethaf, gallwn ddewis bod yn fendith.
Gweddi: Annwyl Dduw, diolch i ti am y rhodd o dosturi. Dw i'n gwybod pan fyddaf yn mynd trwy stormydd yn fy mywyd, mae gen i allu cynyddol i fod yn dosturiol wrth eraill. Helpa fi i fanteisio ar hynny a'i ddefnyddio i fendithio'r rhai o'm cwmpas. Amen.
Am y Cynllun hwn
Fel Cristnogion, nid ydym yn ddiogel o drafferthion yn y byd hwn. Yn wir, mae Ioan 16:33 yn addo y byddan nhw'n dod. Os wyt ti'n wynebu stormydd bywyd ar hyn o bryd, mae'r defosiwn hwn ar dy gyfer di. Mae'n ein hatgoffa o'r gobaith sy'n ein cael drwy stormydd bywyd. Ac os nad wyt ti'n wynebu unrhyw frwydrau yn y foment hon, bydd yn rhoi'r sylfaen iti a fydd yn dy helpu di trwy dreialon yn y dyfodol.
More