Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Darganfod Gwirionedd Duw Yn Stormydd BywydSampl

Finding God's Truth In The Storms Of Life

DYDD 5 O 10

Canfod Nerth yn yr Arglwydd

Nid yw ofn yn ddim byd i chwerthin amdano na'i gymryd yn ysgafn. Mae wedi cadw pobl bwerus rhag cyflawniadau gwych. Mae wedi atal byddinoedd rhag symud mlaen. A bydd yn ceisio dy atal di hefyd, os byddi’n gadael iddo.

Ond mae gynnon ni rywbeth gwell nag ofn - Duw. Dylai'r wybodaeth honno ein cadw rhag cael ein trechu gan ofn, ond yn aml nid yw'n gwneud hynny. Er ein bod ni'n Gristnogion, dŷn ni'n dal i ildio i ofn trwy'r amser.

Ac mae ein hildio i ofn yn dangos nad ydyn ni wir yn deall gallu ein Duw.

Mae darn heddiw o Salm 46 yn rhoi darlun dramatig inni o ffydd yn dinistrio ofn. Mae'r Salmydd yn dweud, oherwydd bod Duw yn ei helpu, ni fydd yn ofni - hyd yn oed os bydd y ddaear yn ildio a'r mynyddoedd yn disgyn i'r môr! Mae hynny'n anhygoel!

Os wyt ti erioed wedi bod i'r mynyddoedd, mae'n debyg y gelli di ddychmygu pa mor ofnus y byddet ti os bydden nhw’n dechrau disgyn o'th gwmpas. Ond nid yw'r salmydd yn dweud nad yw cwymp mynyddoedd yn frawychus. Mae'n dweud bod ei ffydd yn gryfach na'i ofn.

Mae ofn yn dweud wrthym ein bod ni ar ein pennau ein hunain, bod yn rhaid i ni wynebu treialon a brwydrau ar ein pennau ein hunain. Mae'n ein hatgoffa o'n gwendid. Mae’n ein cyfeirio at ein methiannau ein hunain. Ond mae ffydd yn ein cyfeirio at Dduw. Mae'n ein sicrhau nad ydym byth ar ein pennau ein hunain - mae Duw bob amser ar ein hochr ni! Ac mae ffydd yn dangos fod ein gwendid yn ddim ond cyfle i Dduw arddangos ei gryfder.

Mae bywyd yn llawn problemau a llawenydd. Dywedodd Frederick Beuchner unwaith, "Dyma'r byd. Bydd pethau hardd ac ofnadwy yn digwydd. Peidiwch ag ofni." Ac roedd yn iawn! Does dim rhaid i ni ofni. Mae gynnon ni Dduw sydd wedi gorchfygu'r byd.

Gweddi: Annwyl Dduw, diolch i ti am dy allu dros bopeth dw i’n ei wynebu. Helpa fi i gael ffydd sy'n fwy na'm hofn. Defnyddia fy ngwendid i ddangos dy gryfder. Diolch nad yw dy gariad tuag ataf byth yn methu. Amen.

Diwrnod 4Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

Finding God's Truth In The Storms Of Life

Fel Cristnogion, nid ydym yn ddiogel o drafferthion yn y byd hwn. Yn wir, mae Ioan 16:33 yn addo y byddan nhw'n dod. Os wyt ti'n wynebu stormydd bywyd ar hyn o bryd, mae'r defosiwn hwn ar dy gyfer di. Mae'n ein hatgoffa o'r gobaith sy'n ein cael drwy stormydd bywyd. Ac os nad wyt ti'n wynebu unrhyw frwydrau yn y foment hon, bydd yn rhoi'r sylfaen iti a fydd yn dy helpu di trwy dreialon yn y dyfodol.

More

Hoffem ddiolch i Vernon Brewer, sylfaenydd World Help a Phrif Swyddog Gweithredol am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwt o wybodaeth dos i: https://www.worldhelp.net

Cynlluniau Tebyg