Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Darganfod Gwirionedd Duw Yn Stormydd BywydSampl

Finding God's Truth In The Storms Of Life

DYDD 4 O 10

Grym Gweddi

Gall gweddïo deimlo fel risg pan fyddwn yn mynd trwy dreialon. "Beth os na fydd Duw yn ateb fy ngweddi yn y ffordd yr wyf yn meddwl y dylai?" gallwn gael ein temtio i ofyn. "Beth os nad yw'n dod drwodd ac yn achub fi rhag fy mhroblemau?" Yn ein eiliadau tywyllaf, gall gweddi hyd yn oed ymddangos yn ddiwerth, a gallwn ddechrau amau bod Duw yn gwrando.

Ond mae 1 Ioan 5:14-15 yn dweud wrthon ni y dylen ni fod â hyder wrth weddïo. Dim ots beth dŷn ni'n gofyn amdano, mae Duw bob amser yn ein clywed. Ac os gweddïwn yn ôl ei ewyllys, fe wyddom y bydd yn ateb gan mai fe sydd â'n lles ni bob amser mewn golwg.

Rhan anodd yr adnodau hynny yw cael y ffydd i weddïo yn unol ag ewyllys Duw. Dydyn ni ddim bob amser yn gwybod beth yw ewyllys Duw, ac weithiau dŷn ni eisiau ein ewyllys gael ei wneud. Ond nid dyna hanfod gweddi. Mae gweddi yn ein cysylltu â Duw, ac mae'n ein helpu i ddod o hyd i heddwch trwy'r cysylltiad hwnnw. Mae gweddi yn caniatáu i ni drosglwyddo ein problemau a'n brwydrau i Dduw a dweud, "Ti biau hyn nawr. Fedri di ei drin gymaint yn well nag y gallwn i erioed."

Er ein bod ni i gyd yn gobeithio bod rhyddhad o'n brwydrau yn rhan o ewyllys Duw, nid yw hynny'n wir bob amser. Ond hyd yn oed pan nad yw yng nghynllun Duw i'n hiacháu na'n hachub rhag sefyllfa, mae gweddi yn dal yn bwysig.

Pan fyddwn yn cyflwyno ein pryderon a'n ceisiadau i Dduw, mae'n dod â heddwch sy'n rhagori ar ddeall ac yn gwarchod ein calonnau a'n meddyliau. Felly heddiw, arllwys dy bryderon a'th geisiadau ar Dduw mewn gweddi. Ac ymhyfryda yn yr heddwch a'r gobaith y mae e’n ei roi i ti mewn ymateb.

Gweddi: Annwyl Dduw, diolch i ti am y rhodd o weddi. Diolch i ti y gallaf bob amser ddod atat ti gyda fy ngheisiadau a'm problemau. A diolch am dy ewyllys perffaith ar gyfer fy mywyd. Dw i'n gweddïo am yr heddwch rwyt yn ei addo i warchod fy nghalon a'm meddwl pan fydd ofn ac amheuaeth yn ymledu. Diolch am wylio drosof i bob amser. Amen.

Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

Finding God's Truth In The Storms Of Life

Fel Cristnogion, nid ydym yn ddiogel o drafferthion yn y byd hwn. Yn wir, mae Ioan 16:33 yn addo y byddan nhw'n dod. Os wyt ti'n wynebu stormydd bywyd ar hyn o bryd, mae'r defosiwn hwn ar dy gyfer di. Mae'n ein hatgoffa o'r gobaith sy'n ein cael drwy stormydd bywyd. Ac os nad wyt ti'n wynebu unrhyw frwydrau yn y foment hon, bydd yn rhoi'r sylfaen iti a fydd yn dy helpu di trwy dreialon yn y dyfodol.

More

Hoffem ddiolch i Vernon Brewer, sylfaenydd World Help a Phrif Swyddog Gweithredol am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwt o wybodaeth dos i: https://www.worldhelp.net

Cynlluniau Tebyg