Darganfod Gwirionedd Duw Yn Stormydd BywydSampl
Gwersi a Ddysgwyd
Yn ei lyfr, Walking with God through Pain and Suffering, mae Tim Keller yn dweud, "Dydych chi ddim yn gwybod mewn gwirionedd mai Iesu yw'r cyfan sydd ei angen arnoch chi nes mai Iesu yw'r cyfan sydd gennych chi."
Yn World Help , rydym wedi gweld tystiolaeth o'r gwirionedd hwn gymaint o weithiau wrth weinidogaethu i bobl ledled y byd. Pan welodd gweinyddwyr cartref plant yn Nepal eu gweinidogaeth yn cael ei lleihau i rwbel gan ddaeargryn, gwnaethon nhw’r unig beth y gallen nhw ei wneud - troi at Iesu. Pan oedd gweddw yn Rwanda yn cael trafferth rhoi bwyd ar y bwrdd i’w phlant, gweddïo oedd ei greddf gyntaf. Dŷn ni wedi clywed stori ar ôl stori am pobl gafodd eu gyrru i freichiau Duw gan dreialon.
Mae dioddefaint yn dangos i ni bwysigrwydd ein ffydd. Mae'n ein rhoi mewn man lle na allwn ddibynnu arnom ein hunain. Yn 2 Corinthiaid 4, cawn ein hatgoffa pan fydd y pethau dŷn ni’n dibynnu arnyn nhw fel arfer yn chwalu, mae ein hysbryd yn cryfhau. Dŷn ni’n nesáu at ffynhonnell gwir nerth, ac yn dysgu cadw ein llygaid arno.
Mae'n bwysig, felly, pan fyddwn ni'n mynd trwy dreialon a dioddefaint, ein bod ni'n dal gafael ar y gwersi dŷn ni'n eu dysgu.
Yr unig ffordd y gallwn wastraffu ein poen yw trwy ei anghofio a gadael ar ôl y mewnwelediadau gwerthfawr a gawsom trwy ei ddioddef.
Os oes angen, crea gofeb gorfforol yn dy fywyd i ffyddlondeb Duw yn ystod dy dreialon. Mae llawer o gerfluniau, llyfrau, a chaneuon wedi'u creu at y diben hwn. Ond nid oes rhaid i'th gofeb fod yn drawiadol yn weledol. Defnyddiodd yr Israeliaid bentyrrau o greigiau i gofio darpariaethau Duw ac i atgoffa eu plant. Mae beth bynnag fydd yn dy atgoffa yn berffaith.
Bydd yn hollol sicr mai Iesu yw'r cyfan sydd ei angen arnom. Pan fydd y byd o'n cwmpas yn ymddangos yn anhrefnus ac yn annibynadwy, mae gennym obaith diysgog. Gad i ni lawenhau yn hynny heddiw!
Gweddi: Annwyl Dduw, gwn fod fy nioddefiadau yn dod â mi yn nes atat ti. Helpa fi i ddysgu a thyfu yn fy ffydd pan fyddaf yn wynebu treialon yn y bywyd hwn. A helpa fi i gofio y gwersi hynny, hyd yn oed pan fydd fy amgylchiadau’n gwella. Diolch i ti am dy amynedd gyda mi wrth i ti barhau i wneud fi y person rwyt ti eisiau i mi fod. Amen.
Am y Cynllun hwn
Fel Cristnogion, nid ydym yn ddiogel o drafferthion yn y byd hwn. Yn wir, mae Ioan 16:33 yn addo y byddan nhw'n dod. Os wyt ti'n wynebu stormydd bywyd ar hyn o bryd, mae'r defosiwn hwn ar dy gyfer di. Mae'n ein hatgoffa o'r gobaith sy'n ein cael drwy stormydd bywyd. Ac os nad wyt ti'n wynebu unrhyw frwydrau yn y foment hon, bydd yn rhoi'r sylfaen iti a fydd yn dy helpu di trwy dreialon yn y dyfodol.
More