Darganfod Gwirionedd Duw Yn Stormydd BywydSampl
Brwydr Emosiwn
Wyt ti erioed wedi teimlo fel pe bai dy ysbryd wedi ei lethu? Weithiau mae popeth yn mynd yn dda, a phan fydd yn cwympo'n ddarnau, mae'n hawdd teimlo nad oes pwrpas trio trwsio dy fywyd. Mae tristwch, dicter, anobaith, ac ofn yn emosiynau real iawn y mae hyd yn oed y Cristnogion cryfaf yn eu profi ar adegau o helbul. Edrycha ar Dafydd neu nifer o arwyr eraill y ffydd.
Yn aml gallwn fod ag ofn cydnabod emosiynau fel y rhain. Ond mae'n bwysig delio â pob uno'n hemosiynau - yn enwedig y rhai negyddol - pan fyddwn ni'n mynd trwy dreialon. Pan dŷn ni’n edrych ar ein dicter a'n tristwch, yng ngoleuni gwirionedd Duw, gallwn ddod o hyd i gysur yn lle gwadu bod dim o’i le.
Pan fyddwn ni’n drist, dŷn ni’n gallu cael llawenydd yn y gwirionedd bod Duw yn agos at y rhai sydd wedi torri eu calon (Salm 34:18). Pan fyddwn yn ddig, gallwn ddod o hyd i heddwch yn yr addewid na fydd cariad di-ffael Duw byth yn cael ei ysgwyd, hyd yn oed gan ein cynddaredd (Eseia 54:10). Pan mae’n ymddangos fod anobaith yn cymryd drosodd, gallwn fwrw ein gofal ar yr Arglwydd oherwydd ni fydd e byth yn gadael inni syrthio (Salm 55:22). A phan gawn ein temtio i ildio i ofn, gallwn fod yn gryf oherwydd Duw yw ein noddfa a gwyddom na fydd yn ein siomi byth (Salm 18:2).
Mae Duw wedi rhoi cymaint o addewidion i ni yn yr Ysgrythur, ond mae un y mae'n ei gynnig dro ar ôl tro yw cysur. Mae'n deall ein brwydr â'n hemosiynau ein hunain, ac mae'n tosturio wrthon ni.
Mae Duw eisiau i ni ildio ein beichiau iddo a phwyso arno mewn ffydd pan fo ein hemosiynau yn ormod i ni eu trin ar ein pennau ein hunain.
Pan fydd ein hysbryd wedi ei lethu, mae Duw yn rhoi sicrwydd i ni Mae tawelwch i’w gael ynddo e.
Felly y tro nesaf y cei di dy demtio i wadu dy emosiynau neu geisio eu trin ar dy ben dy hun, ildia nhw i Dduw yn lle hynny. Bydd yn rhoi gobaith i ti sy'n fwy nag unrhyw frwydr emosiynol y byddi di’n ei wynebu.
Gweddi: Annwyl Dduw, diolch i ti am y sicrwydd a roddaist inni yn yr Ysgrythur am Dy gariad tuag atom. Rwy'n gwybod dy fod bob amser yn gryfach nag unrhyw broblem a wynebaf. Helpa fi i ildio fy mrwydrau emosiynol i ti. Diolch am y cysur rwyt ti'n ei ddarparu pan fydd ei angen fwyaf arnaf. Amen.
Am y Cynllun hwn
Fel Cristnogion, nid ydym yn ddiogel o drafferthion yn y byd hwn. Yn wir, mae Ioan 16:33 yn addo y byddan nhw'n dod. Os wyt ti'n wynebu stormydd bywyd ar hyn o bryd, mae'r defosiwn hwn ar dy gyfer di. Mae'n ein hatgoffa o'r gobaith sy'n ein cael drwy stormydd bywyd. Ac os nad wyt ti'n wynebu unrhyw frwydrau yn y foment hon, bydd yn rhoi'r sylfaen iti a fydd yn dy helpu di trwy dreialon yn y dyfodol.
More