Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Aros yma amdanat ti, Taith Adfent o ObaithSampl

Waiting Here for You, An Advent Journey of Hope

DYDD 7 O 7

MAE GOSTYNGEIDDRWYDD YN EDRYCH YN DDA AR BAWB

MYFYRDOD

Iesu yw Brenin y Brenhinoedd, ac eto daeth i'r byd fel gwas gostyngedig. Dydy gostyngeiddrwydd ddim yn golygu meddwl dy fod yn ddi-bwys, mae e'n dy atgoffa mai Iesu a''th wnaeth yn fwy. Felly, sut wyt ti'n dod i fod yn fwy fel Iesu? Sut wyt ti'n datblygu ysbryd o ostyngeiddrwydd?

Gostyngeiddrwydd yw'r canlyniad o fod gyda Iesu. Ni fydd pwy bynnag sy'n cerdded yn agos gydag e yn meddwl gormod ohono'i hun. I gael ein caru gan Iesu a'n gwahodd i berthynas ag e, yw'r cwbl dŷn ni ei angen i unioni dy hun i lle dylet fod a derbyn ei diriondeb a gras.

Dydy bod yn ostyngedig ddim yn golygu bod yn wan. Mae Duw wedi rhoi popeth i fyw'n hyderus ynddo e. Fydd y balch fyth yn codi enw Duw mewn mawl. Ond eto, mae e'n codi'r gostyngedig i uchelfannau newydd.

MYFYRDOD A GWEDDI

litani preifat o ostyngeiddrwydd.

O'r awydd i gael fy nghanmol, achub fi Iesu,

O'r awydd i gael fy ffafrio, achub fy fi Iesu, >O'r awydd i gael fy ymgynghori, achub fi Iesu,
O'r awydd i gael fy nghymeradwyo, achub fi Iesu,

O'r awydd i gael cyfforddusrwydd a esmwythder. achub fi Iesu,
O'r ofn o gael fy nghywilyddio, acgub fi Iesu,
O'r ofn o gael fy meirniadu, achub fi Iesu,
O'r ofn o gael fy anwybyddu, achub fi Iesu,
O'r ofn o gael fy anghofio, achub fi Iesu,
O'r ofn o fod yn unig, achub fi Iesu,

O'r ofn o gael fy mrifo, achub fi Iesu,
O'r ofn o ddioddefaint, achub fi Iesu,

Fel bod eraill yn cael eu caru fwy na fi,
Iesu, rho i mi y gras i'w ddymuno.
Fel bod eraill yn cael eu dewis a minnau'n cael fy rhoi i un ochr,
Iesu, rho imi y gras i'w ddymuno.

O Iesu, tirion a gostyngedig o galon, gwna fy nghalon i fel un ti,
O Iesu, tirion a gostyngedig o galon, cryfha fi gyda'th Ysbryd.
O Iesu, tirion a gostyngedig o galon, dysga i mi dy ffyrdd.

O Iesu, tirion a gostyngedig o galon
helpa fi i osod o'r neilltu fy hunanoldeb,
i ddysgu y math o gydweithrediad ag eraill
sy'n gwneud presenoldeb cartref Abba'n bosib. Amen

Addaswyd o weddi gan Rafael

Cardinal Merry Del Val, 1865–1930

Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

Waiting Here for You, An Advent Journey of Hope

Yn syml, Cyfnod yw'r Adfent o ddisgwyl disgwylgar a pharatoi. Ymuna â'r gweinidog ac awdur, Louie Giglio ar daith yr Adfent i ddarganfod nad yw disgwyl yn wastraff amser pan wyt ti'n disgwyl ar yr Arglwydd. Dalia afael yn y cyfle i ddatgelu'r gobaith helaeth a gynigir drwy daith yr Adfent. Yn ystod y saith diwrnod nesaf byddi'n darganfod heddwch ac anogaeth ar gyfer dy enaid wrth i ddisgwyliad arwain at ddathliad!

More

Hoffem ddiolch i Louie Giglio, awdur Waiting Here for You (Passion Publishing), am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.passionresources.com