Aros yma amdanat ti, Taith Adfent o ObaithSampl
YR UNION AMSER
MYFYRDOD
Roedd Gwaredwr wedi'i addo i bobl Dduw am ganrifoedd. Roedden nhw'n gweddïo a hiraethu am achubiaeth. Ac yna, ar y diwrnod cywir, yn y lle cywir, a'r amser cywir, cafodd Iesu ei eni. Er mai anaml y daw Duw ar ein hamser penodedig, mae e bob amser yn dod ar yr amser iawn.
Mae pob un ohonom yn disgwyl am rywbeth, gan bendroni'n aml os yw Duw wedi anghofio amdanom ni. Yn dy ddisgwyl, gad i enedigaeth Crist dy annog. Er nad yw Duw wedi dod drwodd (hyd y gelli weld), dydy e ddim yn golygu ei fod wedi cefnu arnat ti. Iddo e mae diwrnod fel mil o flynyddoedd a mil o flynyddoedd fel diwrnod. Ar yr union funud hon mae e'n gweithio er ei ogoniant ac er dy les di. Er bod amgylchiadau'n dweud fel arall, mae Duw yn mynd i ddod drwodd, ar amser, gan gyflawni ei gynlluniau ar dy gyfer di. Paid rhoi'r gorau iddi cyn bod yr amser yn iawn.
Cymer obaith yn y cafn bwydo anifeiliaid, gan wybod fod y Duw ddaeth lawr o'r nefoedd yn dy garu gan gyrraedd ar yr amser iawn i ti.MYFYRIO
Clyw y Sŵn Balch
Clyw y Sŵn Balch! Mae'r Gwaredwr yn dod,
Y Gwaredwr addawyd ers amser maith,
Gad i bob calon baratoi gorsedd,
A phob llais gân.
I achub carcharorion ddaeth,
Oedd wedi'u dal gan ddrwg,
Chwalwyd giatiau pres o'i flaen,
Ildiodd y llythrennau heyrn.
Fe ddaw i glymu'r galon dor,
I wneud yr enaid blin yn iach,
A chyda holl drysorau'i ras
I gyfoethogi'r crand
a chyfoethogi'r tirion tlawd.
Ein Hosannas balch, Tywysog Heddwch,
Dy groeso fydd yn cyhoeddi,
A phorthau'r nefoedd yn bythol weiddi
Gyda'th enw annwyl.
(Cyfieithiad rhydd o "Hark the Glad Sound") Philip Doddridge, 1702–1751
GWEDDI
O Dad, tyrd i'm cyfarfod yn fy nisgwyl, ble dw i'n hiraethu am yr hyn na fedra i ei weld yn glir. Tawela fy nghalon a gwna imi sylweddoli dy fod yn agos. Dw i'n credu bod dy gynlluniau yn rhai da. Dw i'n ei weld yng ngenedigaeth dy Fab.
Ond weithiau dw i'n stryglo i weld tu hwnt i'r niwl sydd o'm cwmpas. Adnewydda fy hyder wrth imi godi fy llygaid atat ti. Dw i am iti gael dy ogoneddu yn fy mywyd yn ystod y cyfnod disgwylgar hwn. Amen.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Yn syml, Cyfnod yw'r Adfent o ddisgwyl disgwylgar a pharatoi. Ymuna â'r gweinidog ac awdur, Louie Giglio ar daith yr Adfent i ddarganfod nad yw disgwyl yn wastraff amser pan wyt ti'n disgwyl ar yr Arglwydd. Dalia afael yn y cyfle i ddatgelu'r gobaith helaeth a gynigir drwy daith yr Adfent. Yn ystod y saith diwrnod nesaf byddi'n darganfod heddwch ac anogaeth ar gyfer dy enaid wrth i ddisgwyliad arwain at ddathliad!
More