Aros yma amdanat ti, Taith Adfent o ObaithSampl
GOGONIANT I DDUW YN Y NEFOEDD UCHAF
MYFYRDOD
Does neb sy'n gyfartal â Duw. Does ganddo ddim diffygion. Dydy e ddim yn brin o ddim. Does ganddo ddim anghenion. Mae e ar y blaen i bopeth, ac ar ddiwedd y dydd, bydd dal ar ei draed. Mae'r byd yn llawn o dduwiau "d bach" , ond ein Duw ni wnaeth y nefoedd a'r ddaear. Does neb sy'n debyg iddo. Does neb yn dod yn agos.
Felly, wrth i ti ddisgwyl arno heddiw, rho iddo glod. Falle fod dy sefyllfa yn edrych ben ei waered, ond mae'r orsedd ar ei thraed! Mola e yn y disgwyl. Dyrchafa e yn y rhyfeddu. Felly, paid â gofyn am lawer heddiw, ond yn hytrach, cadwa ati i ddyrchafu ei enw, uwchlaw pob enw. Gad i'r enw hwnnw sefydlu dy galon a thawelu dy enaid. Gad i'th fawl foddi pawb arall sy'n cystadlu am dy deyrngarwch a chariad. Pan wnei di, bydd dy gân yn codi dy feddwl i'r uchelfannau.
MYFYRIO
Mawl yn y Goruchaf
Ti yw'r cyntaf un
Ti'n mynd o'n blaen
Ti yw'r olaf un
Arglwydd, Ti yw'r encôr
Mae d'enw mewn golau i bawb ei weld
Boed i'r holl sêr ddatgan dy orfoledd/p>
Mawl yn y Goruchaf
Mawl yn y Goruchaf
Mawl yn y Goruchaf
Ti yw ein Duw, yr unig Dduw
Goleuni'r byd
Y Seren Fore ddisglair
Dy enw di, goleuni yw
Ti yw yr un
Ti yw fy unig fawl
Mawl yn y Goruchaf
Mawl yn y Goruchaf
Mawl yn y Goruchaf
Does neb i'w gael r'un fath
â ti Iôr
Yr holl fyd gyd-ganant dy glod,...
Mawl yn y Goruchaf... i ti Iôr
Yr holl fyd a ganant glod,
Y lloer, a'r sêr, yr haul a'r glaw
Yr holl fyd a ganant fawl
Mai ti yw Duw, Creawdwr mawr
Moliant, Moliant i ti Iôr, Moliant, Moliant, Halelwia
Halelwia
(Cyfieithiad rhydd o Glory in the Highest) Chris Tomlin, Matt Redman, Jesse Reeves, Daniel Carson, Ed Cash
GWEDDI
O Dad, beth ddwedaf i wrthot ti? Does neb yn debyg. Mae fy ngeiriau a fy meddyliau mor fach o'u cymharu â Thi. Dw i wedi gweld y noson serennog ac ni all ddal cannwyll i'th ogoniant. Ehanga fy ffydd a rho imi eiriau wrth geisio ymuno ag anthem moliant i ti.
Mae pob moliant i ti nawr a hyd byth. Cerddaf yn y gwirionedd hwnnw heddiw. Credaf ynddo, bod yn debyg iddo, a gweddïo fel e. Rhoddaf fel e, a rhoi mawl am nad oes dim arall fel ti. Amen.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Yn syml, Cyfnod yw'r Adfent o ddisgwyl disgwylgar a pharatoi. Ymuna â'r gweinidog ac awdur, Louie Giglio ar daith yr Adfent i ddarganfod nad yw disgwyl yn wastraff amser pan wyt ti'n disgwyl ar yr Arglwydd. Dalia afael yn y cyfle i ddatgelu'r gobaith helaeth a gynigir drwy daith yr Adfent. Yn ystod y saith diwrnod nesaf byddi'n darganfod heddwch ac anogaeth ar gyfer dy enaid wrth i ddisgwyliad arwain at ddathliad!
More