Aros yma amdanat ti, Taith Adfent o ObaithSampl
DOES NEB YN FY NYCHRYN.
MYFYRDOD
Yng nghanol y twyll a'r cynnwrf, cadwa dy olwg ar Iesu. Mae'n ymladd drosot ti. Mae Emaniwel yn agos. Er bod cyhuddiadau'n hedfan a'r gelyn yn ymosod ar dy feddyliau, er bod pobl yn ceisio dy dorri i lawr a llusgo dy enw trwy'r mwd, er bod cynlluniau'n cael eu lansio a bod temtasiynau'n rhuo, er bod dy gnawd yn methu ac yn sgrechian am ddial - mae dy obaith yn yr Un sy'n ymladd drosot ti. Rwyt ti'n ddiogel yng nghariad Duw ac yng ngrym Ei enw nerthol.
MYFYRIOPaid bod ag ofn na phanicio.
Paid bod ag ofn na phanicio,
Dw i wastad ddim yn bell,
Dw i'n dod i dewi ofnau ffôl,
Blinedig rai boed ddewr.
Cytgan
Paid bod ag ofn, dw i gyda ti,Paid bod ag ofn, dw i gyda ti,
Paid bod ag ofn dw i gyda ti,
Gyda ti beth bynnag ddaw.
Falle nad wyf wastad
Mor agos, a hoffet imi fod,
Ond yn y twyll a'r cynnwrf,
Pob peryg rwyf yn gweld.
Cytgan
Paid ofni trystio breichiau cryf,
Ddaeth â bywyd lawr i ti,
Dioddefais lawer, cefaist fyw,
A chefaist goron gryf.
Cytgan
(Cyfieithiad rhydd o Stanzas 1-3) J.W.HOWE
GWEDDI
O Dad, ynghanol y storm dw i'n gosod fy ngobaith arnat ti. Rwyt yn ymladd ar fy rhan ac yn gryfach na'm holl elynion. Does dim rwy'n ei wynebu heddiw'n fwy nerthol na ti. Ti yw'r tir cadarn o dan fy nhraed. Diolch am f'amddiffyn rhag y rhai sy'n fy amgylchynu. Rho imi heddwch ym mhresenoldeb fy ngelynion, gan wybod dy fod yn fy ngweld a'm hamddiffyn yn dy gariad. Amen.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Yn syml, Cyfnod yw'r Adfent o ddisgwyl disgwylgar a pharatoi. Ymuna â'r gweinidog ac awdur, Louie Giglio ar daith yr Adfent i ddarganfod nad yw disgwyl yn wastraff amser pan wyt ti'n disgwyl ar yr Arglwydd. Dalia afael yn y cyfle i ddatgelu'r gobaith helaeth a gynigir drwy daith yr Adfent. Yn ystod y saith diwrnod nesaf byddi'n darganfod heddwch ac anogaeth ar gyfer dy enaid wrth i ddisgwyliad arwain at ddathliad!
More