Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Aros yma amdanat ti, Taith Adfent o ObaithSampl

Waiting Here for You, An Advent Journey of Hope

DYDD 6 O 7

IESU YW EIN GWLEDD

MYFYRDOD

Dydy Iesu ddim yn rhoi i ti beth wyt ti angen, Iesu yw beth sydd angen arnat. Crëwyd dy galon ganddo e, ar ei gyfer e. Mi fedri di ymladd hyd eithaf dy allu i gael popeth yn y byd, ond heb fod Iesu gyda ti, fyddi di fyth yn fodlon.

Os oes rhyw anfodlonrwydd dwfn yn tyfu o fewn dy galon - newyn nad yw wedi fodloni'n llawn gan bobl, pleserau, partïon, pethau materol, cyflawniadau - heddiw yw'r diwrnod i ti agor dy galon i'r syniad mai ar gyfer Iesu y cefaist dy wneud. Ond rhaid i ti gerdded i ffwrdd oddi wrth "llai", a gofyn iddo fod yn "bopeth" i ti. Mae Iesu'n ddigon i ti, ac mae e yma.

MYFYRDOD

O tyred di, Emanŵel

O tyred di, Emanŵel
a datod rwymau Isräel
sydd yma’n alltud unig, trist,
hyd ddydd datguddiad Iesu Grist:
O cân, O cân: Emanŵel
ddaw atat ti, O Isräel.

O tyred, Flaguryn Jesse nawr,
a dryllia allu’r gelyn mawr;
rho fuddugoliaeth drwy dy wedd
ar uffern ddofn ac ofn y bedd:

O cân, O cân: Emanŵel
ddaw atat ti, O Isräel.

Lladin. o'r 12fed ganrif
Psalteriolum Cantionum Catholicarum, Köln, 1710
Cyfieithwyd i'r Saesneg gan John Mason Neale, 1818–1866, alt.
Stanzas 1 & 4. Cyfieithiad Cymraeg gan J. D. Vernon Lewis,, 1879-1970

GWEDDI

O Da, Ti yn unig sy'n gwybod gymaint dw i wedi chwilio am fodlonrwydd ym mhobl a phethau'r byd. Ond mae nhw'n doredig, a dw i hefyd. Ti yn unig all lenwi fy nghalon llwglyd. Ti yn unig sydd â chariad anghymarol. Dwyt ti byth yn newid. Agor fy llygaid heddiw. Dangos imi dy gyfoeth a'th ogoniant. Helpa fi i'th adnabod yn well. Gad imi weld y wledd sydd yn fy nisgwyl ynot ti, fel fy mod yn cael fy modloni ynot ti, a ti yn unig. Amen.

Ysgrythur

Diwrnod 5Diwrnod 7

Am y Cynllun hwn

Waiting Here for You, An Advent Journey of Hope

Yn syml, Cyfnod yw'r Adfent o ddisgwyl disgwylgar a pharatoi. Ymuna â'r gweinidog ac awdur, Louie Giglio ar daith yr Adfent i ddarganfod nad yw disgwyl yn wastraff amser pan wyt ti'n disgwyl ar yr Arglwydd. Dalia afael yn y cyfle i ddatgelu'r gobaith helaeth a gynigir drwy daith yr Adfent. Yn ystod y saith diwrnod nesaf byddi'n darganfod heddwch ac anogaeth ar gyfer dy enaid wrth i ddisgwyliad arwain at ddathliad!

More

Hoffem ddiolch i Louie Giglio, awdur Waiting Here for You (Passion Publishing), am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.passionresources.com