Aros yma amdanat ti, Taith Adfent o ObaithSampl
BYDD LONYDD
amser o lonyddwch wrth i ni ddisgwyl ar yr Arglwydd.
MYFYRDOD
Mae amseroedd o dawelwch yn brin iawn ac mae'n anodd i ddod o hyd i lonyddwch, ond cymra rai munudau heddiw i dawel ystyried yr Arglwydd. Ceisia beidio astudio, neu i ddim byd dynnu dy sylw - yn hytrach bydd yn llonydd a myfyria ar y person Iesu a'r cyfan mae wedi'i wneud drosot. Meddylia am ei eni, Ei blentyndod, a'r wawr o olau yn codi dros fyd tywyll a blinedig. Meddylia am ei farwolaeth a'i aberth, a'r rhodd o fywyd mae e'n ei gynnig i ti. Myfyria ar ei atgyfodiad, ei bŵer dros dywyllwch a'r bedd. Bwyda ar ei bresenoldeb ac yn y llonyddwch chwilia amdano. Meddylia am ei ddyfodiad, ar y diwrnod y byddi'n gweld ei wyneb.
MYFYRIO
Cymra ennyd i fod yn dawel o'i flaen. Meddylia am Iesu a bod yn hyderus ynddo e.
GWEDDI
O Dad, dw i'n disgwyl yma amdanat ti. Tyrd a chwrdd â fi yn y tawelwch. Cwrdd â fi, yn y funud hon. Cwrdd â fi yn a thrwy dy Fab a'th Ysbryd. Amen.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Yn syml, Cyfnod yw'r Adfent o ddisgwyl disgwylgar a pharatoi. Ymuna â'r gweinidog ac awdur, Louie Giglio ar daith yr Adfent i ddarganfod nad yw disgwyl yn wastraff amser pan wyt ti'n disgwyl ar yr Arglwydd. Dalia afael yn y cyfle i ddatgelu'r gobaith helaeth a gynigir drwy daith yr Adfent. Yn ystod y saith diwrnod nesaf byddi'n darganfod heddwch ac anogaeth ar gyfer dy enaid wrth i ddisgwyliad arwain at ddathliad!
More