Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Aros yma amdanat ti, Taith Adfent o ObaithSampl

Waiting Here for You, An Advent Journey of Hope

DYDD 2 O 7

MAE DUW YN GWEITHIO TRA DŶN NI'N DISGWYL

MYFYRDOD

Os dŷn ni'n onest dŷn ni i gyd yn casáu disgwyl. I ddweud yu gwir, dŷn ni'n aml yn dweud rywbeth fel, "Dw i'n methu credu fod hyn yn yn cymryd mor hir; mae e'n costio amser imi sydd ddim gen i!" Mae hynny am fod y rhan fwyaf ohonom ni'n ystyried bod disgwyl yn wastraffus. Ond nid felly yw hi gyda Duw.

Mae Duw'n gweithio tra dŷn ni'n disgwyl. Hyd yn oed pan wyt ti'n methu gweld beth mae e'n ei wneud. Mae Duw bob amser yn trefnu digwyddiadau'r nefoedd a'r ddaear i gyflawni Ei ddibenion ar gyfer dy fywyd. Mae tryst yn ei gariad di-ildio - cariad a'i symudodd i anfon Gwaredwr o'r nefoedd i'th adfer a'th achub. Ni fydd cynlluniau Duw ar gyfer dy fywyd yn cael eu rhwystro. Disgwylia'n amyneddgar, gan wybod nad yw disgwyl byth yn cael ei wastraffu pan wyt ti'n disgwyl ar Dduw.

MYFYRIO

O tyred Iesu, bûm yn disgwyl

O tyred Iesu, bûm yn disgwyl
Anwyd i'n gwaredu oll,
Achub ni o'n ofn a'n pechod,
Gad i'n orffwys ynot ti
N erth a chysur Israel,
Ti yw gobaith yr holl fyd,
Awydd annwyl pob un cenedl,
Pob un calon lawenha.

Ganwyd e i achub pobl,

Ganwyd e yn blentyn frenin,
Teyrnasa wna am byth ynom ni,
Nawr dy deyrnas rasol ddaw,
Drwy dy Ysbryd di dy hun,
I deyrnasu'n ein calonnau,
Teilwng wyt tu hwnt a digonol,

Cod ni i'th odidog orsedd.

(Cyfieithiad rhydd o "Come Thou Long Expected Jesus") Charles Wesley, 1707-1788

GWEDDI

O Dad, dw i yma'n disgwyl amdanat ti. Mae fy nghalon a'm dwylo'n agored i dy bwrpas di ar gyfer dy gynllun di'n fy mywyd. Rho imi'r amynedd dw i wir ei angen ac arwain fi'n fy nisgwyl. Er nad yw fy nheimladau, o bosib, wedi newid, dw i'n credu dy fod yn symud ar fy rhan y funud hon, yn f'amddiffyn, fy mharatoi, a darparu ar fy nghyfer. Rho ras i mi barhau i'th drystio yn wyneb gwyntoedd cryfion amheuaeth sy'n chwythu o'm cwmpas. Angora fi ynot ti. Amen.

Ysgrythur

Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

Waiting Here for You, An Advent Journey of Hope

Yn syml, Cyfnod yw'r Adfent o ddisgwyl disgwylgar a pharatoi. Ymuna â'r gweinidog ac awdur, Louie Giglio ar daith yr Adfent i ddarganfod nad yw disgwyl yn wastraff amser pan wyt ti'n disgwyl ar yr Arglwydd. Dalia afael yn y cyfle i ddatgelu'r gobaith helaeth a gynigir drwy daith yr Adfent. Yn ystod y saith diwrnod nesaf byddi'n darganfod heddwch ac anogaeth ar gyfer dy enaid wrth i ddisgwyliad arwain at ddathliad!

More

Hoffem ddiolch i Louie Giglio, awdur Waiting Here for You (Passion Publishing), am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.passionresources.com