Saith Allwedd i Gyfanrwydd EmosiynolSampl
Allwedd 7: Gofynna i'r Ysbryd Glân am Help
Mae’r Ysgrythur yn dweud mai’r unig Arweinydd i’w drystio yw’r Ysbryd Glân. Fe yw'r un sy'n adnabod ein gorffennol, o'r eiliad y cawsom ein cenhedlu i'r presennol, ac sydd hefyd yn gwybod ein dyfodol, o'r dydd hwn i dragwyddoldeb. Mae’n gwybod cynllun a phwrpas Duw ar ein cyfer heddiw a phob dydd o’n bywydau. Mae hefyd yn gwybod beth sy'n dda ar ein cyfer.
Cyfeiriodd Iesu dro ar ôl tro at yr Ysbryd fel “Ysbryd y gwirionedd.” Ond pan ddaw e, sef yr Ysbryd sy’n dangos y gwir i chi, bydd yn eich arwain chi i weld y gwir i gyd. Fydd e ddim yn siarad ar ei liwt ei hun – bydd ond yn dweud beth mae’n ei glywed, a bydd yn dweud wrthoch chi beth fydd yn digwydd.” (Ioan 16:13). Mae Ysbryd y gwirionedd fel cwmpawd mewnol yn ein bywydau, bob tro yn ein cyfeirio at sut fyddai, a beth fyddai Iesu yn ei wneud a’i ddweud mewn unrhyw sefyllfa.
Y Tad wnaeth ddatgelu i Iesu popeth a wnaeth e. Rhaid i ninnau hefyd ofyn i’r Ysbryd Glân am ewyllys y Tad i ni. Fe all y person sy’n emosiynol iach deimlo dicter, er enghraifft, ond trwy ofyn i'r Ysbryd Glân sut i sianelu'r dicter hwnnw, mae'r person yn mynd i ddod o hyd i ollyngfa ar gyfer dicter sy' n arwain at fendith, nid niwed. Gall y person emosiynol iach siomi neu ddigaloni, ond trwy ofyn i'r Ysbryd Glân am arweiniad, bydd e neu hi yn cael ei arwain at gyfleoedd newydd sy'n arwain at obaith.
Cofia, mae'r Ysbryd Glân yn cael ei roi i ti pan fyddi di'n dewis trystio Crist. Bwriad yr Ysbryd Glân ydy rhoi arweiniad i ti, i’th helpu i gerdded yn ffyrdd yr Arglwydd, ac i wneud dewisiadau doeth. Gofynna am help yr Ysbryd i’th warchod rhag drwg a’th arwain i gyfiawnder. Rho iddo reolaeth dros dy ddiwrnod a’r emosiynau rwyt yn eu profi. Trystia e i’th helpu i feithrin nerth ac iechyd emosiynol, gan ddod â harmoni rhwng dy fywyd emosiynol a’th fywyd ysbrydol - bywyd cyfan sydd ar gael yn Iesu Grist.
Darganfydda fwy o gynlluniau darllen fel hwn yn intouch.orgyn /plans.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae o leiaf saith prif agwedd ar gyfanrwydd yn ymwneud â cheisio’r gorau gan Dduw ar gyfer dy fywyd emosiynol. Does dim angen i ti gymryd y rhain yn eu trefn. Ymuna â Dr. Charles Stanley wrth iddo dy helpu i adeiladu arferion allweddol yn dy fywyd a fydd yn dy helpu i ddod yn fwyfwy cyfan yn dy ysbryd a'th emosiynau. Darganfydda fwy o gynlluniau darllen fel hwn yn intouch.org/plans.
More