Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Saith Allwedd i Gyfanrwydd EmosiynolSampl

Seven Keys To Emotional Wholeness

DYDD 6 O 7

Allwedd 6: Stopia ddal gafael ar Fethiannau'r Gorffennol

Ewyllys Duw am fywyd y credadun yw buddugoliaeth. Ond weithiau gallwn gael ein hunain yn syrthio i'r un pechodau dro ar ôl tro. O ganlyniad, mae ein bywydau yn cael eu nodi gan addewidion toredig i roi diwedd ar ddrwg weithredu. Dywedwn wrth yr Arglwydd ein bod yn dyheu am wneud yr hyn sy'n iawn, ond yn aml mae ein dymuniad yn pylu pan nad yw rhinwedd bellach yn gyfleus, yn bleserus nac yn broffidiol. Lawer gwaith, mae credinwyr yn gwylltio gyda Duw am atal y fuddugoliaeth, ond pechod yw ein dewis ni bob amser - nid dewis yr Arglwydd.

Pan dŷn ni’n wir edifarhau am ein pechodau, yn gofyn i’r Arglwydd am ei faddeuant, a thrystio’r Crist byw i’n grymuso, dŷn ni’n creu grym pwerus yn erbyn Satan a themtasiwn. Dŷn ni'n fuddugoliaethus dros ein methiannau pan gofiwn mai Iesu Grist yw ffynhonnell ein bywydau, ac mae Duw yn ein sicrhau mai ein buddugoliaeth ni fydd hi pan fyddwn ni'n pwyso arno e.

Rhan o dderbyn maddeuant Duw a buddugoliaeth fyw hefyd yw maddau i’th hun. Unwaith y bydd Duw wedi maddau i ti, does gen ti ddim hawl ar bechodau, methiannau, neu wendidau y gorffennol. Rwyt yn greadigaeth newydd yng Nghrist Iesu (2 Cor. 5:17). Bob tro y byddi di'n dal gafael ar fethiannau’r gorffennol, rwyt ti'n cau dy galon a'th feddwl i'r bendithion sydd gan Dduw ar dy gyfer. Meddylia yn lle hynny am y ffyrdd gwahanol mae'r Tad wedi dy helpu a’th fendithio yn dy fywyd. Unrhyw bryd y byddi di'n myfyrio ar fethiannau'r gorffennol, atgoffa dy hun fod Duw wedi dy waredu rhag pechod. Yna, tro dy feddwl at y pethau cadarnhaol y mae wedi'u gwneud i t, ynot ti, a thrwot ti. Dechreua ei ganmol am ei ddaioni, gan stopio dal gafael yn y pechod oedd wedi dy rwymo.

Diwrnod 5Diwrnod 7

Am y Cynllun hwn

Seven Keys To Emotional Wholeness

Mae o leiaf saith prif agwedd ar gyfanrwydd yn ymwneud â cheisio’r gorau gan Dduw ar gyfer dy fywyd emosiynol. Does dim angen i ti gymryd y rhain yn eu trefn. Ymuna â Dr. Charles Stanley wrth iddo dy helpu i adeiladu arferion allweddol yn dy fywyd a fydd yn dy helpu i ddod yn fwyfwy cyfan yn dy ysbryd a'th emosiynau. Darganfydda fwy o gynlluniau darllen fel hwn yn intouch.org/plans.

More

Hoffem ddiolch i In Touch Ministries am ddarparu'e cynllun darllen hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.intouch.org/reading-plans