Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Saith Allwedd i Gyfanrwydd EmosiynolSampl

Seven Keys To Emotional Wholeness

DYDD 5 O 7

Allwedd 5: Rhannwch Eich Hun Gydag Eraill

Gall gormod o fewnsylliad i'ch problemau a'ch gwendidau achosi i chi gynhyrfu. Os wyt ti erioed wedi cael gwallt neu ewinedd traed wedi tyfu i mewn, rwyt ti'n gwybod sut y gall un elfen fach o’th gorff achosi poen. Mae'r un egwyddor hon yn berthnasol i’th fywyd ysbrydol ac emosiynol. Gelli fynd yn fewnblyg a thros amser achosi difrod mawr i dy hun, i gyd yn enw ceisio adnabod dy hun neu drwsio dy broblemau dy hun.

Y ffordd orau o wella llawer o anawsterau emosiynol yw edrych allan a dechrau rhoi i eraill. Efallai y byddi di'n dweud, "Ond does gen i ddim byd i'w roi." Mae gan bob person rywbeth i'w roi, hyd yn oed os mai dim ond gwên, gair caredig, neu goflaid mewn amser o angen. Weithiau gall dim ond dy bresenoldeb fod yn rhodd i rywun, yn enwedig i'r rhai sy'n unig, yn galaru, neu'n dioddef o salwch hir. Y bobl hapusaf dw i'n eu hadnabod yw'r rhai sydd â chalonnau agored eang ac sy'n rhoi'n hael i eraill. Mae unigolion o’r fath yn gwbl sicr yng nghariad Duw. Rho heb ddisgwyl dim yn gyfnewid. Bydd Duw yn gweld dy galon a'r hyn rwyt yn ei wneud ... a bydd yn dy wobrwyo yn unol â hynny. Trystia e i ofalu amdanat.

Trwy roi yn rhydd ac yn hael, rwyt ti'n agor dy hun. Mae'r safiad agored hwn gerbron Duw a phobl eraill yn bwysig i iechyd emosiynol. Dim ond wrth i ti agor dy hun y byddi di'n dysgu trystio, ac mae gallu ymddiried yn hanfodol i’th allu i dderbyn maddeuant ac iachâd Duw ac i gredu y bydd Duw yn cyflenwi dy holl anghenion.

“Ewch i iacháu pobl sy’n glaf, dod â phobl sydd wedi marw yn ôl yn fyw, iacháu’r rhai sy’n dioddef o’r gwahanglwyf, a bwrw allan gythreuliaid o fywydau pobl. Gan eich bod wedi derbyn y cwbl am ddim, rhowch yn rhad ac am ddim.” (Mathew 10:8).

Ysgrythur

Diwrnod 4Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

Seven Keys To Emotional Wholeness

Mae o leiaf saith prif agwedd ar gyfanrwydd yn ymwneud â cheisio’r gorau gan Dduw ar gyfer dy fywyd emosiynol. Does dim angen i ti gymryd y rhain yn eu trefn. Ymuna â Dr. Charles Stanley wrth iddo dy helpu i adeiladu arferion allweddol yn dy fywyd a fydd yn dy helpu i ddod yn fwyfwy cyfan yn dy ysbryd a'th emosiynau. Darganfydda fwy o gynlluniau darllen fel hwn yn intouch.org/plans.

More

Hoffem ddiolch i In Touch Ministries am ddarparu'e cynllun darllen hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.intouch.org/reading-plans