Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Saith Allwedd i Gyfanrwydd EmosiynolSampl

Seven Keys To Emotional Wholeness

DYDD 1 O 7

Allwedd 1: Rho dy Galon i Grist

Prynedigaeth ysbrydol yw'r allwedd gyntaf i ddatblygu hunanddelwedd gadarnhaol. Gall pobl nad ydyn nhw'n adnabod Crist honni eu bod yn meddwl y byd ohonyn nhw eu hunain, ond pe bydden nhw’n onest fydden nhw ddim yn dod i'r casgliad hwnnw. Mae'r rhan fwyaf o anghredinwyr sy'n nodi eu bod yn hunangynhaliol ac nad oes angen Crist arnyn nhw yn bobl druenus mewn argyfyngau. Maen nhw fel chwyn blodeuol hardd heb unrhyw system wreiddiau gref. Dim ond am gryfder, egni, brwdfrydedd a chreadigrwydd y mae'n rhaid iddyn nhw ddibynnu arnyn nhw eu hunain. Yn y pen draw, maen nhw'n cyrraedd pen eu tennyn. Does ganddyn nhw’r mo’r Ysbryd Glân ynddyn nhw i’w hadeiladu yng Nghrist mewn ffordd sy’n gysur ac yn seiliedig ar wirionedd, hyd yn oed ar adegau o gosb.

Mae cael perthynas â Iesu Grist yn datrys llawer o faterion sy’n tanseilio cyfanrwydd emosiynol:

· Teimlo'n euog. Mae euogrwydd yn cael ei greu pan fydd gen ti bechod sydd heb ei faddau. Pan ofynni am faddeuant Duw, rwyt ti'n cael maddeuant. Mae euogrwydd yn cael ei olchi i ffwrdd (Rhuf. 8:1).

· Teimlo heb dy garu. Pan fyddi di'n troi at Grist, rhaid i ti dderbyn bod Duw yn dy garu di ac yn dymuno cael perthynas dragwyddol â thi (Rhuf. 8:38-39).

· Cael ysbryd dial yn erbyn eraill. Unwaith y byddi wedi derbyn rhodd iachawdwriaeth rad ac am ddim Duw, dylet gydnabod bod Duw hefyd eisiau maddau i eraill. Yr hyn y mae Duw wedi ei wneud i ti, mae'n dymuno ei wneud i bawb, waeth beth fo'u gorffennol (Col. 3:13).

· Ymdrechu i ennill ffafr gyda Duw. Mae rhodd iachawdwriaeth Duw i ti yn rhad ac am ddim. Fedri di mo’i ennill, ei brynu, na'i gyflawni trwy weithredoedd da. Dwyt ti ddim yn ei haeddu. Pan fyddi di'n cael dy eni o'r newydd yn ysbrydol, rhaid i ti dderbyn bod unrhyw ffafr sydd gen ti gyda Duw yn seiliedig ar yr hyn y mae Crist wedi'i wneud (Eff. 2:8-9).

Os wyt ti eisiau bod yn emosiynol gyfan heddiw, rho dy fywyd i Grist. Unwaith y byddi di i wedi derbyn Crist Iesu fel dy Waredwr personol, rhaid i ti ei ddilyn e fel dy Arglwydd. Mae'r dilyniant dyddiol hwn o Grist yn cynnwys cyffesu pechodau, glanhau dyddiol o'th ysbryd sydd yr un mor hanfodol i'th iechyd ysbrydol ag yw bath dyddiol i'th iechyd corfforol. Rwyt ti'n ceisio maddeuant Duw yn gyntaf am dy natur bechadurus ac yna am y pechodau rwyt ti'n eu cyflawni wrth ddilyn Crist.

Cofia, does neb yn gallu dilyn Crist yn berffaith. Y mae pawb ȃ thueddiad i gyfeiliornadau bwriadol a diniwed - yr hyn a eilw rhai yn bechodau bwriadol ac yn bechodau anfwriadol. Am y pechodau hyn rwyt yn ceisio maddeuant diddiwedd. A phan wnei, mae dy Dad nefol cariadus yn addo estyn ei ras a’i drugaredd i ti (Eff. 1:7).

Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Seven Keys To Emotional Wholeness

Mae o leiaf saith prif agwedd ar gyfanrwydd yn ymwneud â cheisio’r gorau gan Dduw ar gyfer dy fywyd emosiynol. Does dim angen i ti gymryd y rhain yn eu trefn. Ymuna â Dr. Charles Stanley wrth iddo dy helpu i adeiladu arferion allweddol yn dy fywyd a fydd yn dy helpu i ddod yn fwyfwy cyfan yn dy ysbryd a'th emosiynau. Darganfydda fwy o gynlluniau darllen fel hwn yn intouch.org/plans.

More

Hoffem ddiolch i In Touch Ministries am ddarparu'e cynllun darllen hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.intouch.org/reading-plans