Saith Allwedd i Gyfanrwydd EmosiynolSampl
Allwedd 2: Trwytha dy Hun Gyda'r Ysgrythur
Pan fyddi di'n cael maddeuant, mae gen ti lechen lân gerbron Duw. Ond nid yw'n ddigon cael llechen lân yn unig. Rhaid i ti ofyn i'r Arglwydd sgwennu ei wirionedd ar lechen dy galon. Mae angen i ti gael daioni Duw wedi'i feithrin ynot ti. Rwyt ti'n cael gwirionedd Duw am bron bob sefyllfa trwy ddarllen ei Air. Mae angen i ti drwytho dy hun gyda barn Duw, ac ym maes iechyd emosiynol, mae hynny'n golygu trwytho dy hun gyda barn Duw amdanat ti.
Yn yr Ysgrythur, byddi di’n darganfod dy fod yn:
· Blentyn i Dduw. Dywed Galatiaid 3:26-27: “Dych chi i gyd yn blant Duw drwy gredu yn y Meseia Iesu. Mae pob un ohonoch chi wedi uniaethu gyda’r Meseia drwy eich bedydd – mae’r un fath â’ch bod wedi gwisgo’r Meseia amdanat.” Ac mae 1 Ioan 5:1 yn sicrhau ymhellach “Mae pawb sy’n credu mai Iesu ydy’r Meseia wedi cael eu geni’n blant i Dduw, ac mae pawb sy’n caru’r Tad yn caru ei blentyn hefyd.”
· Cael eu derbyn yn llwyr a chyfan gwbl gan Dduw. Mae deall dy fod fel plentyn i Dduw yn cael dy dderbyn yn llwyr a chyfan gwbl gan Dduw yn allweddol i'th iechyd emosiynol. Mae Actau 10: 34-35 yn ein dysgu dydy “Duw ddim yn dangos ffafriaeth! Mae’n derbyn pobl o bob gwlad sy’n ei addoli ac yn gwneud beth sy’n iawn.”
· Derbyn etifedd y Tad trwy Grist Iesu. Yn olaf, mae gwybod bod Gair Duw yn addo dy fod fel ei blentyn, yn etifedd iddo trwy Iesu Grist, yn setlo dy feddwl ac yn sicrhau cam i'r cyfeiriad cywir o ran dy iechyd a'th lles emosiynol. Mae Galatiaid 3:29 a Titus 3:7 yn addo, am ei fod wedi bod mor garedig â gwneud ein perthynas ni gyda Duw yn iawn, dŷn ni’n gwybod y byddwn ni’n etifeddu bywyd tragwyddol.
Mae yna lawer o ddisgrifiadau eraill o bobl Dduw sy’n ymddangos yn yr Ysgrythur. Myfyria ar ei Air, gan ofyn iddo wneud yn glir ei farn ryfeddol amdanat. Gwna restr o’r rhain neu rho gylch o’u cwmpas wrth iti ddarllen dy Feibl bob dydd. Os wyt wedi dy aileni trwy Grist Iesu, mae'r holl ddisgrifiadau hyn am blant Duw yn berthnasol iti ... cymera nhw fel rhan o'th proffil.
Am y Cynllun hwn
Mae o leiaf saith prif agwedd ar gyfanrwydd yn ymwneud â cheisio’r gorau gan Dduw ar gyfer dy fywyd emosiynol. Does dim angen i ti gymryd y rhain yn eu trefn. Ymuna â Dr. Charles Stanley wrth iddo dy helpu i adeiladu arferion allweddol yn dy fywyd a fydd yn dy helpu i ddod yn fwyfwy cyfan yn dy ysbryd a'th emosiynau. Darganfydda fwy o gynlluniau darllen fel hwn yn intouch.org/plans.
More