Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Saith Allwedd i Gyfanrwydd EmosiynolSampl

Seven Keys To Emotional Wholeness

DYDD 4 O 7

allwedd 4: Stopia bargeinio gyda Duw

Efallai dy fod yn meddwl, os byddi'n gweithio'n ddigon caled yn unig ac yn gwneud digon o ddaioni yn dy fywyd, bydd Duw yn dy gymeradwyo di. Os felly, rwyt ti'n trio ffeirio gweithredoedd da ar gyfer y Tad yn dy dderbyn. Y gwir yw, mae Duw yn dy dderbyn fel yr wyt ti, ond rwyt ti'n cael trafferth derbyn ei gariad.

Efallai dy fod yn cael anhawster derbyn trugaredd Duw oherwydd nad wyt erioed wedi derbyn ei gariad yn llawn. Neu efallai dy fod mor gyfarwydd â natur rhoi a chymryd, prynu a gwerthu ein diwylliant nes dy fod yn tybio y gelli di ddelio â Duw yr un ffordd: gwna Di hyn i mi, a fe wnaf I hyn i ti. Dydy Duw ddim yn gweithredu yn unol â'r egwyddor ddynol honno.

Mae ei egwyddor yn un o dderbyniad llwyr i ti pan fyddi’n gofyn am ei faddeuant a gwneud ei ewyllys. Os yw'n dymuno newid rhywbeth yn dy fywyd, mae ei gosb yn amyneddgar ac yn garedig (byth y tu hwnt i’th allu i’w gynnal), ac mae ei gariad yn gyson (byth yn cael ei ddal yn ôl na'i dynnu). Fedri di ddim ffeirio dy ffordd o amgylch ewyllys Duw, waeth pa mor galed rwyt ti'n trio.

Beth ddylwn i ei wneud yn lle bargeinio? Dw i'n falch dy fod wedi gofyn!

Trystio yn Nuw.

Gofynna iddo am yr hyn rwyt ti ei eisiau, yna trystio ynddo i ateb dy weddi yn ôl ei ddoethineb a'i ddarpariaeth anfeidrol. “Paid poeni felly, a dweud, ‘Beth wnawn ni fwyta?’ neu ‘Beth wnawn ni yfed?’ neu ‘Beth wisgwn ni?’ 32Y paganiaid sy’n poeni am bethau felly. Mae’ch Tad nefol yn gwybod am bopeth sydd ei angen arnoch chi. 33Y flaenoriaeth i chi ydy gadael i Dduw deyrnasu yn eich bywydau a gwneud beth sy’n iawn yn ei olwg; wedyn byddwch yn cael y pethau eraill yma i gyd”(Matt. 6: 31-33).

Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

Seven Keys To Emotional Wholeness

Mae o leiaf saith prif agwedd ar gyfanrwydd yn ymwneud â cheisio’r gorau gan Dduw ar gyfer dy fywyd emosiynol. Does dim angen i ti gymryd y rhain yn eu trefn. Ymuna â Dr. Charles Stanley wrth iddo dy helpu i adeiladu arferion allweddol yn dy fywyd a fydd yn dy helpu i ddod yn fwyfwy cyfan yn dy ysbryd a'th emosiynau. Darganfydda fwy o gynlluniau darllen fel hwn yn intouch.org/plans.

More

Hoffem ddiolch i In Touch Ministries am ddarparu'e cynllun darllen hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.intouch.org/reading-plans