Saith Allwedd i Gyfanrwydd EmosiynolSampl
Allwedd 3: Sicrhau Iachâd Duw ar gyfer dy Feiau
Mae gan bawb rywbeth amdanyn nhw eu hunain dydyn nhw ddim yn ei hoffi. Mae gan bob un ohonom duedd i ganolbwyntio mwy ar ein diffygion a'n gwendidau nag ar ein cryfderau. Dyna ydy'r natur ddynol. Fodd bynnag, mae rhai pethau mewn bywyd na ellir eu newid. Er enghraifft, fedri di ddim newid y teulu y ces di dy eni iddo, a fedri di ddim ychwaith newid dy hil neu statws corfforol. Does dim modd newid rhai gwendidau corfforol a/neu anableddau. Ond pan fyddi di'n wynebu'r pethau fedri di mo’u newid amdanat ti dy hun sy'n dy wneud di'n fendigedig ac yn unigryw, rwyt ti'n ddoeth i dderbyn mai, yn syml iawn, dyma ydy’r ffordd mae Duw wedi dy greu.
Mae rhai pethau mewn bywyd yn ddigyfnewid oherwydd y byd rwyt ti’n byw ynddo. Er enghraifft, efallai na fyddi di’n gallu newid y ffaith bod dy rieni wedi ysgaru neu fod dy blant yn gysylltiedig â sefyllfaoedd peryglus neu ymddygiadau dinistriol. Ond fedri di weddïo ar i'r Arglwydd ddod ag iachâd ynot ti ac i’th anwyliaid.
Fodd bynnag, mae yna elfennau ohonot ti, dy bersonoliaeth, a'th emosiynau y gellir eu newid. Er enghraifft, efallai dy fod yn meddwl dy fod yn genfigennus neu ȃ thuedd i golli tymer oherwydd dy natur. Gad imi dy sicrhau, mae cenfigen a ffrwydradau yn nodweddion sy’n cael eu meithrin. Fedri di ofyn i'r Arglwydd dy iacháu o'th genfigen a'th ddicter a'th helpu i ymddiried ynddo e ac eraill.
Felly sut wyt ti’n cael iachâd yn dy emosiynau? Yn gyntaf, rwyt ti'n nodi'r nodwedd o’th gymeriad rwyt ti'n gwybod sy'n annymunol i'r Arglwydd ac yn gofyn iddo faddau iti am ganiatáu i'r nodwedd hon ddatblygu. Yn ail, gofynna iddo dy iachau o'r duedd hon. Yn drydydd, rho ganiatâd iddo wneud beth bynnag y mae angen iddo ei wneud yn dy fywyd i'th wneud di'n gyfan. Ac yn olaf, creda fod Duw ar waith yn dy fywyd ac y bydd yn dy wneud yn gyfan yn ei amser ac yn ôl ei ddulliau.
Mae Duw yn drugarog. Mae'n maddau, Mae'n iacháu, ac mae'n addo mynd i mewn i unrhyw ran o’th fywyd rwyt ti'n ei agor iddo. “Dw i’n gweddïo y bydd Duw ei hun, y Duw sy’n rhoi heddwch dwfn i ni, yn eich gwneud chi’n berffaith lân, ac y bydd y person cyfan – yn ysbryd, enaid a chorff – yn cael ei gadw’n ddi-fai ganddo nes daw ein Harglwydd Iesu Grist yn ôl. Mae’r Duw sy’n eich galw chi yn ffyddlon, a bydd yn gwneud hyn.” (1 Thes. 5:23-24)
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae o leiaf saith prif agwedd ar gyfanrwydd yn ymwneud â cheisio’r gorau gan Dduw ar gyfer dy fywyd emosiynol. Does dim angen i ti gymryd y rhain yn eu trefn. Ymuna â Dr. Charles Stanley wrth iddo dy helpu i adeiladu arferion allweddol yn dy fywyd a fydd yn dy helpu i ddod yn fwyfwy cyfan yn dy ysbryd a'th emosiynau. Darganfydda fwy o gynlluniau darllen fel hwn yn intouch.org/plans.
More